| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/26/2009 - Cyfle olaf i fod yn greadigol ar gyfer cystadleuaeth ffotograffu!


Mae hi’n ben set ar ffotograffwyr brwd i fod yn greadigol ar gyfer calendr arbennig sy’n cael ei gynhyrchu i amlygu harddwch a hanes Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio.
Fe drefnwyd y gystadleuaeth gan brosiect Grug a Bryngaerau, a sefydlwyd i amddiffyn y rhostir grugog a’r bryngaerau drwy addysg a gweithgareddau cadwraethol.  Cafodd y prosiect cyffredinol bron i £2 filiwn o arian Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Gofynnir i gyfranogwyr gymryd ffotograff o unrhyw agwedd ar y dirwedd yn un ai Fryniau Clwyd neu Fynydd Llantysilio.  Caiff y ffotograff buddugol ei ddangos yng nghalendr Grug a Bryngaerau 2010 gyda chlod lawn.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw un o unrhyw oed a’r terfyn amser ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Llun, Gorffennaf13.
Dylid anfon ffotograffau (wedi eu printio neu eu darparu’n ddigidol neu ar ddisg) at: Get Clicking, Grug a Bryngaerau, Parc Gwledig Loggerheads, Yr Wyddgrug.  CH7 5LH.  Dylai cyfranogwyr roi eu henw, cyfeiriad a rhif cyswllt gyda’u cais.
Fe gyhoeddir yr enillydd yn Sioe Dinbych a Fflint ym mhafiliwn Cyngor Sir Ddinbych a Fflint ar y cyd ar ddydd Iau, Awst 20.  Fe gysylltir â’r rhai nesaf at y gorau cyn y digwyddiad.
Mae’r Prosiect Grug a Bryngaerau sy’n brosiect tair blynedd, yn datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  Am ragor o fanylion ewch i
Nodyn i olygyddion:  
• Gan ddefnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri’n cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau.  Gwefan: www.hlf.org.uk <http://www.hlf.org.uk>
• O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol.  Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cefnogi dros 26,000 o brosiectau gan ddyrannu dros £4biliwn ar draws y DU, yn cynnwys dros 1,700 o brosiectau sy’n gyfanswm o dros £192 miliwn yng Nghymru. 

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych