| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/30/2009 - Gwyliwch – gwarchodwyr ysgol o gwmpas!

Caiff y cynllun sy’n annog trigolion i gadw golwg ar eu hysgol leol ei amlygu mewn digwyddiad yn Ysgol Mair, Y Rhyl ar Orffennaf 7 am 10:30am.
Nod Gwarchod Ysgol yw annog pobl i gadw llygad ychwanegol ar eu hysgolion lleol yn ystod y toriad hir dros yr haf er mwyn ceisio atal fandaliaeth a byrgleriaeth mewn ysgolion.
Mae ysgolion yn adnodd gwerthfawr i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac mae cyllidebau ysgol, y dylid eu defnyddio i addysgu ein plant, yn cael eu dargyfeirio i gyfarfod â chostau diogelu eiddo gyda griliau ffenestri, larymau, camerâu diogelwch, ffensys a dyfeisiadau diogelu eraill.
Fe fydd yna gynrychiolwyr o Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n bresennol yn y digwyddiad yn ogystal â phlant o Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones sydd y drws nesaf.
Mae’r plant yn edrych ymlaen at archwilio’r cerbydau brys – yn cynnwys car yr heddlu, injan dân a hyd yn oed hofrennydd yr heddlu.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych