| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/03/2009 - Dr Toman yn ymddeol

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ymddeoliad Dr Michael Toman, prifathro Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych, sy’n gadael i ddilyn sialensiau newydd.

Fe ymunodd Dr Toman â’r ysgol yn 1997 ac ers hynny bu’n gyfrannol yn arwain y tîm a weddnewidiodd yr ysgol o fod yn ysgol arbennig i fod yn ganolfan fodern, ranbarthol ar gyfer myfyrwyr awtistig.

Fe fydd yn gadael ei swydd ar ddiwedd Awst.

Meddai Dr Toman: “Mi fydd yn chwith gen i beidio gweithio gyda’r staff ardderchog yn yr ysgol a’r llywodraethwyr sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth yn y cefndir.  Mi fydda i’n colli gweithio gyda’r rhieni a’r teuluoedd hefyd.  Mae gen i’r parch mwyaf tuag at rieni’r myfyrwyr ym Mrondyffryn am eu hymroddiad hael i’w plant.”

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych