| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/03/2009 - Cynnig gwobr pedair seren i fusnesau Sir Ddinbych sy’n cwblhau arolwg twristiaeth Cantata2
Mae menter €2.2m Cantata dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, - wedi ei chydariannu gyda chefnogaeth ERDF yr Undeb Ewropeaidd – rhaglen Ardal yr Iwerydd, wedi dychwelyd i helpu busnesau yn Sir Ddinbych i gynyddu gwerthiannau ac elw twristiaeth.
Ac mae gwobr o noson o wely a brecwast a chinio i ddau mewn lleoliad pedair seren yn y sir ar gyfer un o’r rhai a gyfranogodd i fenter gyntaf Cantata.
Nod Cantata yw manteisio ar y tueddiad cynyddol ymysg twristiaid i fynd oddi ar y llwybrau cydnabyddedig a cheisio lleoliadau gwledig ac arfordirol distawach, a dysgu am ddiwylliannau ac arferion gwahanol.
Mae’n cwmpasu ystod eang o fusnesau sydd â chysylltiad ag ymwelwyr, yn cynnwys gweithredwyr tacsis a bysus, siopau cornel a salonau harddwch, yn ogystal â gwestai a gweithredwyr atyniadau.
I sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn cael ei yrru gan anghenion masnachol, mae Cantata’n lansio gydag arolwg ymchwil marchnad.
Bydd yn darganfod gan fusnesau sy’n dod i gysylltiad â thwristiaid, beth sydd ei angen i roi profiad gwell i ymwelwyr, i annog ymwelwyr i aros yn hirach ac i benderfynu dychwelyd i’r sir hyd yn oed.
Bydd enwau pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael eu rhoi yn y tyniad am ddim i ennill cinio, gwely a brecwast i ddau mewn lleoliad pedair seren yn y sir.
Mae arweinwyr Grwpiau Busnes Gwledig Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Corwen, Rhuthun, Llangollen a Chlwyd wedi cytuno i hyrwyddo’r arolwg i’w haelodau.
Gellir llenwi’r arolwg drwy fynd i http://petermcdermott-cantata.blogspot.com/
Yn ogystal mae swyddog prosiect Cantata, Peter McDermott yn ymweld â rhai o’r cwmnïau i lenwi’r arolwg efo nhw.
Yr un cyntaf i’w gwblhau oedd cadeirydd Grŵp Busnes Dinbych a pherchennog E Jones Electrical ar Stryd Fawr Dinbych, Peter Jones.
Meddai:  “Er nad yw ein siop yn un sydd ar gyfer twristiaid, bydd ymwelwyr yn galw i mewn i brynu eitemau y byddant wedi eu hanghofio, yn enwedig radios.  
“Mae Cantata’n llenwi bwlch a fydd yn ein helpu i roi mantais i Sir Ddinbych dros gyrchfannau twristiaid eraill.
“Mae’r holiadur yn un sydyn i’w lenwi.  Mae rhai cwestiynau’n rhai amlddewis ac mae eraill yn gadael i chi roi eich atebion eich hun a bydd hynny’n rhoi digonedd o wybodaeth ddefnyddiol.  Mae’r wobr pedair seren yn gymhelliad da i gymryd rhan!”
Dywedodd Peter McDermott bod yr ariannu yn ei le’n barod i weithredu ar gasgliadau’r arolwg. 
“Rydym yn mynd i sicrhau eto bod Cantata’n cael ei yrru gan anghenion masnachol. 
“Mae Cantata’n esblygu.  Y tro diwethaf fe gynhaliwyd gweithdai a digwyddiadau hyfforddi.  Yn awr fe fyddwn yn rhedeg mentrau newydd a gwahanol gyda’r nod o hyd o helpu busnesau i werthu mwy a gwneud mwy o elw.   Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i fusnesau ddweud wrthym ni beth sydd arnynt ei angen.
“Mewn marchnad dwristiaeth gystadleuol, rydym am sicrhau bod ein hoffrwm twristiaeth yn cyfarfod â disgwyliadau ymwelydd yr oes fodern sy’n cynyddu’n barhaus.  Bydd Cantata2 yn helpu Sir Ddinbych i godi’r safon ac i uchafu’r potensial twristiaeth.”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Peter McDermott ar 01824 708079 neu e-bostiwch peter.mcdermott@sirddinbych.gov.uk
 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych