| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Trwyddedu Ar-lein

Mae’r cyngor yn ymrwymedig i ddarparu cyrchiad electronig i’r wybodaeth y mae’n ei dal a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu ar y rhyngrwyd.

Mae Adrannau Trwyddedu Conwy a Sir Ddinbych wedi rhoi cyrchiad uniongyrchol ar gael i geisiadau a thrwyddedau a roddir gan y cyngor drwy ei system Lalpac Enterprise.

Gall defnyddwyr gyrchu gwybodaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.

Mae system Lalpac Enterprise yn ymholi ein data-bas ac yn dileu gwybodaeth sydd wedi ei ddiogelu â data gan adael y cofrestrau cyhoeddus ar gael i’w pori ar unrhyw adeg.

Mae’r wybodaeth a ddangosir ar y cofrestrau ar-lein wedi ei chyfyngu i ddim ond y data sy’n ofynnol i ni ei roi ar gael yn gyhoeddus drwy gyfraith.  Nid dyma gyfanswm y wybodaeth a gedwir gennym ni am bob trwydded.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r defnydd o wasanaeth trwyddedu ar-lein y cyngor, neu os oes arnoch angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu ar 01824 706311 neu e-bostiwch trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych