Gerddi Coffa a phontydd rheilffordd y Rhyl
Mae problemau wedi bod ers peth amser gyda grwpiau o bobl yn ymgynnull ac yn yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn Ffordd Morley a’r cyffiniau, y Rhyl.
Yn ddiweddar mae’r grwpiau hyn wedi tyfu i’r fath raddau fel eu bod wedi dechrau ymledu i’r gerddi coffa hefyd, ac mae aelodau o’r cyhoedd wedi stopio mynd yno o ganlyniad i ymddygiad un neu ddau o’r bobl yma.
Felly, ar ôl ymgynghori ag asiantaethau eraill, mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi gwneud yr ardal o flaen yr Orsaf Rheilffordd hyd at Ffordd Churton yn ardal lle gellir gwasgaru grwpiau.
Mae hyn yn golygu y gall yr heddlu fynnu bod pobl yn gadael yr ardal os yw eu presenoldeb yno yn achosi, neu’n debygol o achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid i eraill. Bydd y gorchymyn yn para am 6 mis - mae copïau ynghlwm.'


(, 109.47 KB)