| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Trwydded siop rhyw a sinema

Crynodeb o’r Drwydded

I redeg siop rhyw - h.y. unrhyw safle sy’n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - fe allech fod angen trwydded gan yr awdurdod lleol.  I redeg lleoliad lle dangosir ffilmiau cignoeth i aelodau’r cyhoedd, mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol.


Ond, gallwch wneud cais i’r awdurdod lleol yn gofyn iddyn nhw roi heibio’r gofyniad am drwydded.

Meini Prawf Cymhwyser

Mae’n rhaid i ymgeisydd:
• fod yn 18 oed o leiaf
• fod heb ei ddiarddel rhag dal trwydded
• fod yn breswylydd yn y DU am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais neu, os yn gorff corfforaethol, mae’n rhaid iddo fod yn gorfforedig yn y DU
• fod heb gael gwrthod grant neu adnewyddu trwydded am y safle dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf oni bai bod y gwrthodiad wedi ei droi ar apêl

Crynodeb o’r Rheoliad

Crynodeb o'r meini prawf cymhwyster ar gyfer y drwydded hon

Proses Werthuso’r Cais

Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer ceisiadau a gall amodau fod yn gysylltiedig.


Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys unrhyw wybodaeth sydd ei angen ar yr awdurdod lleol, yn ogystal ag enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a, lle bydd yr ymgeisydd yn unigolyn, eu hoed yn ogystal â chyfeiriad y safle.


Mae’n rhaid i ymgeiswyr rhoi hysbysiad cyhoeddus o’u cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

Fydd Cydsyniad Dealledig yn Gymwys?

Bydd.  Golyga hyn y gallwch weithredu fel pe bai’r cais wedi ei roi os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd  cyfnod cwblhau’r targed.

Ymgeisio ar-lein

Ymgeisiwch am drwydded ar gyfer sefydliad rhyw

Iawn am Gais a Fethodd

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.


Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo, neu y gwrthodir adnewyddu trwydded iddo, apelio i’r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i gael ei hysbysu o’r gwrthodiad.


Ond, nid yw’r hawl i apêl yn gymwys lle gwrthodwyd y drwydded ar y sail:
• bod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn uwch na’r nifer yr ystyria’r awdurdod lleol i fod yn addas
• y byddai caniatáu’r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal, neu’r safle ei hun.

Iawn i Ddaliwr y Drwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Gall daliwr trwydded sydd am apelio yn erbyn amod apelio at y Llys Ynadon lleol.  Yn yr Alban gall daliwr trwydded sydd am apelio yn erbyn amod apelio i’r siryf lleol.

Cwynion Cwsmeriaid

Byddem yn cynghori bob amser, os ceir cwyn, mai chi sydd i wneud y cysylltiad cyntaf â’r masnachwr – a hynny’n ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf o dderbyn).  Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych mewn lleoliad yn y DU, fe wnaiff Cyswllt Defnyddwyr Cymru roi cyngor i chi.  Y tu allan i’r DU cysylltwch ag UK European Consumer Centre.


Gall dalwyr trwydded ymgeisio ar unrhyw adeg i’r awdurdod am amrywiad o’r telerau, amodau neu gyfyngiadau yn eu trwydded.
Os gwrthodir cais am amrywiad, neu os diddymir y drwydded, gall daliwr y drwydded, o fewn 21 diwrnod i gael ei hysbysu o orfodaeth, neu’r gwrthodiad i amrywio’r telerau, amod neu gyfyngiad dan sylw, neu o’r diddymiad, apelio i’r Llys Ynadon lleol.


Gall daliwr trwydded hefyd apelio i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad gan Lys Ynadon.

Iawn Arall

Gall unrhyw berson sy’n gwrthwynebu cais am roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, roi rhybudd ysgrifenedig o’u gwrthwynebiad i’r awdurdod perthnasol, gan ddatgan sail eu gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y cais.

Cymdeithasau Masnach

Dim

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych