| Crynodeb o’r Drwydded | I gasglu arian neu werthu eitemau er budd achos elusennol neu bwrpas arall yng Nghymru neu Loegr, mae angen trwydded casgliad stryd gan eich cyngor lleol. Diffiniad “casgliad” yw casgliad arian neu wrthiant eitemau er budd dibenion elusennol. Mae’r Rheoliadau’n gymwys hefyd os ceir cynrychioliad gan, neu ar ran y gwerthwr fod unrhyw ran o’r elw o’r gwerthiant yn cael ei roi i unrhyw ddiben elusennol. Mae gwerthu bathodynnau pin yn dod dan y categori hwn. Nid yw’r Rheoliadau’n gymwys i werthu eitemau pan werthir yr eitemau’n rhan o drefn fasnachu gyffredin. |
|---|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Mae gan y Cyngor ffurflen gais swyddogol ar gyfer casgliadau stryd ac mae’n rhaid ei chwblhau’n llawn a’i chyflwyno i Swyddfa Drwyddedu’r Cyngor o leiaf fis cyn dyddiad y casgliad arfaethedig. Yna bydd Swyddogion Trwyddedu’n gwneud yr archwiliadau fydd yn angenrheidiol i sicrhau mai dim ond casgliadau dilys a wneir. |
| Crynodeb o’r Rheoliad | Mae Rheoliadau a wnaethpwyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn unol ag Adran 5 Deddf yr Heddlu, Ffatrïoedd (Darpariaethau Amrywiol) 1916, fel y’i diwygiwyd, yn ei gwneud yn drosedd cynnal casgliad ar unrhyw stryd neu le cyhoeddus oni bai fod trwydded wedi ei chael gan y Cyngor ymlaen llaw. |
| Y Broses o Werthuso’r Cais | Os cymeradwyir cais am gasgliad stryd fe roddir trwydded ynghyd â chopi o Reoliadau Casgliadau Stryd y Cyngor sy’n nodi’r amodau lle caniateir i berson wneud casgliadau. Cyfeiria’r Rheoliadau at y bobl hynny sy’n gymwys i gasglu a’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt, y bocsys casglu ar gyfer derbyn arian a chyfrif o’r incwm a’r gwariant yn dilyn cynnal casgliad felly. |
| Fydd Cydsyniad Dealledig yn Gymwys? | Na. Mae er lles y cyhoedd fod yn rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch ag o. |
| Ymgeisio ar-lein | |
| Iawn am Gais a Fethodd | Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. |
| Iawn i Ddaliwr Trwydded | Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. |
| Cwynion Cwsmeriaid | Byddem yn cynghori bob amser mai chi ddylai wneud y cyswllt cyntaf gyda’r masnachwr os ceir cwyn – a hynny ar ffurf llythyr (gyda phrawf derbyn). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych yn y DU, fe wnaiff Cyswllt Defnyddwyr Cymru roi cyngor i chi. Y tu allan i’r DU cysylltwch â’r UK European Consumer Centre. |
| Iawn Arall | E.e. am sŵn, llygredd, etc. Hefyd a ddylai un daliwr trwydded gwyno am un arall. |
| Cymdeithasau Masnach | Dim |

