| Crynodeb o’r Drwydded | Mae’n bosib y bydd angen i unigolion neu fusnesau ymgeisio am drwydded safle er mwyn gallu cynnal un neu fwy o’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol: Mae adloniant rheoledig yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
Pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer trwydded safle’n arbennig, mae’n rhaid i chi ddangos sut na fydd eich gweithgareddau arfaethedig yn cael effaith wrthwynebus ar yr amcanion trwyddedu. Felly hefyd os bydd unigolion neu fusnesau am wrthwynebu eich cais gallant wneud hynny dim ond ar sail un neu fwy o’r pedwar amcan trwyddedu. Dim ond ar sail un neu fwy o’r amcanion trwyddedu y gall Awdurdodau Cyfrifol (gweler y ddogfen atodol isod) (sy’n gorfod cael copi o’ch cais) hefyd wrthwynebu. |
|---|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Awdurdodau Cyfrifol Y broses o ymgeisio Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau i awdurdod trwyddedu ar ffurflen safonol gan amgáu’r tâl priodol yn seiliedig ar NRDV y safle. Mae’n rhaid i’r cais hefyd gynnwys amserlen weithredu, cynllun o’r safle a’r gweithgareddau trwyddedadwy arfaethedig. Bydd yn rhaid hysbysebu’r cais hefyd y tu allan i’r safle ac mewn papur newydd lleol. Dyluniwyd y ffurflen ar gyfer llawer o fathau o fusnes felly llenwch yr adrannau sy’n berthynol i’r gweithgareddau’r ydych chi’n dymuno gwneud cais amdanynt. Os bydd angen i chi wneud cais am drwydded safle sy’n caniatáu gwerthu a chyflenwi alcohol yna mae yna faterion eraill sydd angen i chi ddelio â nhw: Ar dudalen 14 o’r ffurflen gais mae angen i chi ddisgrifio pa gamau byddwch yn eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Pan anfonwch gopïau o’ch cais at yr awdurdodau cyfrifol byddant yn edrych ar yr adran hon i wirio a fyddwch wedi cymryd camau digonol i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Os oes arnoch angen help i gwblhau’r ffurflen gais, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu ar 01824 706342 / 01824 706311. Tâl |
| Crynodeb o’r Rheoliad | Cyfeiriwch, os gwelwch yn dda, at Wefan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i gael gwybodaeth bellach ar reoliad Deddf Drwyddedu 2003 yn www.culture.gov.uk. |
| Y Broses o Werthuso’r Cais | Pan fyddwch yn anfon eich cais at yr Awdurdod Trwyddedu a’r awdurdodau cyfrifol bydd angen i chi wedyn gyflawni cyfnod rhybudd o 28 diwrnod. Mae hwn yn gyfnod o amser pan hysbysebir eich cais a phan fydd yr awdurdodau cyfrifol a chyfranogwyr eraill fel preswylwyr lleol yn gallu rhoi sylwadau i’r awdurdod trwyddedu am eich cais. Yn dilyn y cyfnod hwn o 28 diwrnod o rybudd, os na fydd eich cais wedi derbyn unrhyw sylwadau yna fe ganiateir eich trwydded newydd yn amodol ar amodau arbennig yn unig, sy’n gyson â’r mesurau a wirfoddolwyd gennych yn nhudalen 14 eich ffurflen gais ynghyd ag unrhyw amodau gorfodol eraill sydd yn y Ddeddf. Os derbynnir sylwadau yn ystod y cyfnod o rybudd yna fe aiff eich cais i wrandawiad.
|
| Fydd Caniatâd Dealledig yn Gymwys? | Bydd. Golyga hyn y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. Fe fydd angen i chi, fodd bynnag, arddangos Crynodeb o’r Drwydded Safle mewn lle amlwg yn y safle; os na fyddwch wedi derbyn y drwydded hon erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu. |
| Ymgeisio ar-lein | Ymgeisio am ddatganiad dros dro Ymgeisio am ddatgymhwyso Goruchwyliwr Safle Penodol Dwedwch wrthym am fân newidiadau i’ch safle Ymgeisio i amrywio eich trwydded safle Ymgeisio i drosglwyddo eich trwydded safle Hysbysiad o ddiddordeb mewn safle dan adran 178 Dwedwch wrthym am newid i’ch hysbysiad awdurdod interim presennol Dwedwch wrthym am newid i’ch cydsyniad presennol i drosglwyddo Hysbysiad o’ch cais i gael eich dileu fel goruchwyliwr safle penodol Dwedwch wrthym am newid i’ch cydsyniad presennol i gael eich dynodi |
| Iawn am Gais a Fethodd | Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
|
| Iawn i Ddaliwr Trwydded | Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
|
| Cwynion Cwsmeriaid | Byddem yn cynghori, os ceir cwyn, y dylech chi wneud y cyswllt cyntaf â’r masnachwr – mewn llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf derbyn). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych wedi eich lleoli yn y DU, fe gewch gyngor gan Consumer Direct. O’r tu allan i’r DU cysylltwch â’r UK European Consumer Centre.
|
| Iawn Arall | Gall unrhyw gyfranogwyr roi sylwadau i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn caniatau’r drwydded neu cyn caniatau diwygiadau i’r drwydded. Os rhoddir sylwadau fe gynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a’r sylwadau. Fe wneir hysbysiadau gan yr awdurdod trwyddedu lleol yn nodi’r rhesymau am unrhyw ganlyniad. Bydd y cyfranogwyr a gyflwynodd y sylwadau’n derbyn hysbysiad o gais a fethodd. |
| Cymdeithasau Masnach | |


