| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Hygyrchedd

Hygyrchedd - Dileu rhwystrau i gael gwybodaeth


Ein nod yw gwneud y wefan www.sirddinbych.gov.uk fod ar gael i gymaint o bobl â phosibl.  Gobeithio y gallwch gael atebion i’ch cwestiynau’n gyflym a phori’n rhwydd yn y wefan.  Treuliwch ychydig o amser os gwelwch yn dda yn edrych ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i’ch cynorthwyo yn eich profiad rhyngweithiol.

Rheoli Maint Ffont


Y ffordd hawsaf i newid maint testun yw defnyddio ein Rheolydd Maint Ffont A | A | A |. Gellir canfod hwn ar frig y tudalen ar yr ochr chwith.

Mae’r tair A yn cynrychioli testun y wefan. Trwy glicio ar un ohonynt, bydd holl destun y prif dudalen yn newid i fersiwn llai neu fwy.

Mae’r A canol yn cynrychioli’r maint safonol.

Newid Iaith


Rydym yn cydymffurfio ag argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â chynnwys dwyieithog. Gellir yn hawdd canfod cyfleuster newid iaith Cymraeg / Saesneg ar frig y tudalen ar yr ochr dde. Trwy glicio ar hwn bydd cynnwys yr holl dudalen yn cael ei gyfieithu i’r iaith arall.

Bydd hefyd yn cyfieithu gweddill y wefan. Felly er mwyn gwe-lywio yn yr iaith wreiddiol, rhaid i chi newid yn ôl eto.

Cydraniad Sgrin


Cymerwyd y gwahanol gydraniadau sgrin i ystyriaeth yn ystod dylunio’r safle gwe, felly gwelwch ei fod yn gweithredu’n gywir yn yr holl gydraniadau 800x600 - 1152x864 picseli.

Ceir opsiynau y gellir eu gosod yn y rhan fwyaf o borwyr i wella hygyrchedd. Yn Internet Explorer dewiswch Tools o’r ddewislen ar dop y sgrin, ac yna dewiswch Internet Options. Cliciwch y botwm

Accessibility, ac fe welwch nifer o opsiynau y gallwch droi ymlaen neu ddiffodd.

Er enghraifft, gallwch wrthwneud  gosodiadau maint tudalen o’r we fel y gallwch ddewis y maint rydych eisiau.

Gweld Tudalen Lawn


Gallwch ddileu’r bar offer o’r porwr gwe er mwyn i’r wefan lenwi’r sgrin.
Er mwyn gweld y sgrin lawn a dileu rhai barrau llywio, gwasgwch fysell F11 unwaith. 
Gwasgwch o eto er mwyn mynd yn ôl at y bar llywio a llun gwreiddiol eich porwr.

Adobe Acrobat PDF a Dogfennau Word


Cyhoeddir nifer o ddogfennau ac adroddiadau o fewn y wefan mewn PDF (Portable Document Format), a hefyd yn Microsoft Word fel arfer.

I agor ffeiliau PDF, rhaid i chi fod ag Adobe® Acrobat® Reader wedi ei osod:
http://www.adobe.com/products/acrobat/readstep2.html

Delweddau a thagiau Alt


Rydym wedi osgoi defnyddio graffigwaith gormodol o fewn y wefan lle bynnag posibl, er mwyn sicrhau amser llwytho i lawr a chael mynediad i wybodaeth na ellir ei ddarllen os yw mewn fformat ddelwedd, yn gyflym.

Lle defnyddir delweddau, rydym wedi ychwanegu tagiau 'Alt' - testunau amgen fel y gallwch ddal i wybod beth yw ystyr y ddelwedd hyd yn oed os nad yw’n llwytho, neu os ydych wedi dewis pori gyda’r delweddau wedi eu diffodd neu os ydych yn defnyddio technoleg i’ch helpu, megis pori’r dudalen wefan gyda darllenydd sgrin yn hytrach na’i weld.



 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych