| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gorsaf Tren Prestatyn

Gorsaf Prestatyn i gael gwedd newydd

 

Mae gwaith ar fin dechrau ar wella mynediad pobl anabl a phobl gydag anawsterau symud yn ogystal â gwaith ychwanegol ar foderneiddio Gorsaf Drenau Prestatyn.  Ar ôl ei orffen, bydd y gwaith hefyd yn gwella mynediad holl ddefnyddwyr at Lwybr Clawdd Offa, y traeth, canol y dref ac atyniadau ymwelwyr gerllaw, gan roi diweddariad i’r orsaf a chreu porth dymunol i dref Prestatyn.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio â Network Rail fel rhan o’i raglen wella Deddf Anffafrio’r Anabl 2005 (DAA). Mae’r gwaith yn cynnwys codi pont droed newydd i’r platfform ynys a mân waith arall i wella isadeiledd, sy’n ffurfio rhan o gynllun ailwampio ehangach adeilad yr orsaf drenau, y platfform a phont ffordd gyfagos.  Network Rail sy’n gwneud y gwaith a bydd y gwelliannau’n cynnwys celfwaith y bydd adran Adfywio Ardaloedd Sir Ddinbych yn talu amdano.

Bydd gwaith yn dechrau ar ddydd Llun, 8fed Chwefror 2010.  Bydd Network Rail yn gwneud y gwaith dechreuol i wella pen isaf y Stryd Fawr ym Mhrestatyn ac, yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd y contractwr a benodwyd yn sefydlu cwrt yn y maes parcio i’r gogledd o’r Orsaf Drenau. Bydd y gwaith i ddisodli'r bont droed bresennol yn dechrau ar y safle ar ddydd Llun, 15fed Chwefror 2010.  Y disgwyl yw y bydd y gwaith yn cymryd 10-12 mis i’w orffen ac, yn ystod y cyfnod hwn, bydd mynediad ar bont droed dros dro nesaf at bont y ffordd dros y rheilffordd. Bydd yr hawl dramwy gyhoeddus yn cael ei dargyfeirio ar hyd y palmant sydd newydd ei ledu dros bont y ffordd yn ystod y gwaith. 

Yn ogystal â’r gwaith ar y bont droed, trefnwyd gwaith hefyd i ailwampio pont y ffordd dros y rheilffordd. Bydd hyn yn cymryd tuag 8 wythnos a bydd yn cynnwys rheoli traffig dros dro, sydd i ddechrau ar ddydd Llun, 8fed Chwefror 2010. 

Byddai Cyngor Sir Ddinbych yn hoffi diolch ymlaen llaw i fodurwyr a theithwyr am eu hamynedd a chydweithrediad yn ystod y gwaith a drefnwyd a byddai’n hoffi pwysleisio y bydd busnesau yng nghyffiniau’r Orsaf Drenau’n aros ar agor i fusnes fel arfer.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych