Ffeithiau am chwilod carped a chwilod ffwr
• Ychydig sy’n hysbys am y chwilen ffwr ond maent yn debyg i chwilod carped
• Maent i’w canfod yn aml mewn bwydydd ac mewn grawn yn achlysurol
• Bydd chwilod carped aeddfed yn ceisio’r golau ac yn byw yn yr awyr agored ar blanhigion ond fe ellid eu canfod yn crwydro dan do
• Bydd larfâu chwilod carped, a elwir yn ‘woolly bears', yn osgoi’r golau ac yn byw dan do, fel rheol mewn mannau tywyll, distaw. Mae larfâu i’w canfod hefyd mewn nythod adar ac fel arfer bydd chwilod yn cael mynediad i eiddo drwy atig o nythod adar yn y bondo. Byddant yn lledaenu i lawr i’r eiddo drwy’r cwpwrdd crasu dillad
Sut allwch chi adnabod chwilen garped neu chwilen ffwr?
Chwilen garped
• Mae maint chwilen garped oddeutu 3 milimedr
• Mae’n frown tywyll neu’n ddu brith gyda chlytiau o gen gwyn neu felyn
Chwilen ffwr
• Mae maint chwilen ffwr ychydig yn fwy yn 5 milimedr
• Mae’n ddu oni bai am glytiau bychan o flew gwyn bob ochr yn agos at ei chanol
Pa ddifrod a wneir ganddynt?
Tra bod yr oedolion yn bwydo ar flodau, mae’r larfâu’n gorfod cael bwyd o darddiad anifail. Gallant achosi difrod sylweddol i garpedi, dillad, gwlân, lledr a sidan, ond ni fyddant yn ymosod ar ffibr gwneud.
Atal a thriniaeth
• Y ffordd orau i ymosod ar broblem chwilod carped yw ataliad!
• Dylech hwfro’n rheolaidd (mewn mannau dan wresogyddion stôr yn arbennig neu ar uniad y sgyrtin)
• Weithiau bydd hen nythod adar, gweddillion anifeiliaid a phryfed marw’n achos yr heintiad a dylid eu symud o ddod o hyd iddyn nhw
• Os bydd y broblem yn parhau, chwistrellwch gyda phryleiddiad arbennig ar gyfer ei ddefnyddio dan do ar chwilod carped/pryfed cropian. Dylid chwistrellu’n rhain ar estyll, mewn craciau a bylchau o gwmpas y sgyrtin
Sylwch: Wrth ddefnyddio plaladdwyr neu gemegau darllenwch y label bob amser cyn ei ddefnyddio.
Y driniaeth a ddarparwn ni
Os oes angen fe ddown i ymweld â’ch eiddo chi a rhoi cyngor neu driniaeth, ac fe godir tâl am hynny.

