Sut maen nhw’n edrych?
Mae gan lygoden fawr gyffredin ffwr bras, coch/brown ar ei chefn a bol goleuach, ond gall lliw amrywio. Mae hyd corff llygoden fawr aeddfed oddeutu 19 centimedr a chynffon gennog o hyd at 12 centimedr. Mae ganddynt drwyn smwt a chlustiau bach.
Ym mhle maen nhw’n byw?
Bydd llygod mawr cyffredin yn byw lle gallant ddod o hyd i fwyd, dŵr a lloches. Mewn cartrefi gallant fyw mewn gofod atig, mewn ceudod waliau, selerydd neu dan estyll er na fyddant yn byw fel rheol mewn cartrefi lle mae pobl yn byw.
Mewn gerddi fe wnânt dyllu i mewn i domen gompost a chloddiau gwelltog neu dan siediau, cefn pyllau a hyd yn oed mewn creigfa. Maent i’w cael yn gyffredin hefyd yn byw mewn systemau carthffosiaeth ac maent yn ddringwyr ac yn nofwyr da
Beth yw’r arwyddion o heigiad?
• Gweld llygod mawr
• Tail, a all fod yn 12 milimedr o hyd ac o siâp hirfain
• Llwybrau – bydd llygod mawr yn teithio ar hyd yr un llwybrau ac yn gadael trywydd drwy wair
• Ôl troed a thrawiadau cynffon ar arwynebedd mwdlyd neu lychlyd
• Gellir gweld marciau iriad gan saim a baw o’u cot ar gorneli waliau ac arwynebedd
• Tyllau - mynediad i’w tyllau oddeutu 7½-10 centimedr mewn diamedr ar ochr siediau, mewn cloddiau gwelltog, dan wreiddiau coed, twmpathau logiau, ymyl cerrig pafin ac o gwmpas gorchuddion draen
• Deintio – bydd llygod mawr yn deintio drwy’r amser, hyd yn oed ar ddeunydd nad yw’n fwyd, i wisgo eu dannedd ffrynt i lawr
Beth maen nhw’n ei fwyta?
Eu hoff fwydydd yw cynnyrch grawnfwyd er y gwnânt fwyta bron bopeth. Gwneir y difrod mwyaf ganddyn nhw drwy ddeintio a rhwygo pacedi’n agored. Byddant hefyd yn llychwino bwyd gydag wrin a thail.
Pam fod yn rhaid rheoli llygod mawr?
Gall llygod mawr drosglwyddo llawer o glefydau. Y prif glefyd y mae llygod mawr yn ei gario yw clefyd Weils. Gall hwn achosi symptomau fel ffliw pan fydd bacteria’n mynd i mewn i’r corff drwy doriadau yn y croen neu drwy gysylltiad â dŵr sydd wedi ei halogi.
Maent hefyd yn cario salmonela a thwymyn brathiad llygod mawr ymysg eraill. Ar wahân i drosglwyddo clefydau, gall llygod mawr achosi difrod i adeiladau a strwythurau eraill drwy ddeintio a thyllu.
Triniaeth ataliol
• Dileu safleoedd nythu potensial drwy gadw gerddi’n lân a thaclus a thorri mannau sydd wedi gordyfu
• Peidiwch â gadael bwyd allan yn hwyr y nos ar gyfer adar ac anifeiliaid gwyllt, gan y bydd hyn yn annog llygod mawr. Os byddwch am eu bwydo ewch â’r bwyd i mewn yn y nos a rhoi bwyd ffres yn y bore
• Cadwch eich cartref yn drwsiadus fel na all llygod mawr gael mynediad iddo
• Gofalwch bod gorchuddion draeniau yn eu lle a heb eu difrodi
• Peidiwch â gadael gwastraff cartref lle gall llygod mawr gael gafael arno
Y driniaeth a ddarparwn ni
Fe wnaiff ein swyddogion rheoli pla ymweld â’ch eiddo i gadarnhau natur a maint y broblem. Mae hyn yn ddibynnol ar ba mor hawdd fydd hi i gael mynediad i fannau gwag (er enghraifft dan estyll).
• Fe geisiwn nodi ffynonellau bwyd potensial a rhoi cyngor i chi
• Fe geisiwn nodi o ble maent yn dod a dweud wrthych sut i ddiogelu’r mannau hyn
• Ni fydd ein swyddogion yn perfformio gwaith diogelu. Gyda thenantiaid y cyngor fe hysbyswn y Gwasanaethau Tai.
• Fe adawn focs abwyd yn cynnwys abwyd sy’n cynnwys gwenwyn gwrthgeulo, sy’n lladd llygod mawr drwy ymosod ar eu cylchrediad. Fel arfer bydd llygod mawr yn bwyta’r abwyd a gall gymryd hyd at 10 diwrnod i weithio.
• Codir tâl am i’n swyddog rheoli pla roi cyngor a thriniaeth i safleoedd masnachol, mannau addoli neu neuaddau pentref.
Gall ein swyddogion leoli unrhyw dyllau y gall plâu eu defnyddio yn yr eiddo, ond ni fyddant yn gwneud atgyweiriadau.
Trefnwch i flocio’r mannau hyn os nad ydych am i broblem y pla ddychwelyd.
Mae cyngor ar gael ar sut y gallwch wneud hyn drwy siarad â’r Swyddog Rheoli Pla.
Os gwelwch chi lygoden fawr dylech adrodd hynny i ni ar unwaith.

