Ffeithiau am wiwerod llwyd
• Nid yw gwiwerod llwyd yn frodorol i Brydain – fe’u cyflwynwyd i’r wlad hon o’r America rhwng 1876 a 1929
• Mae gwiwerod llwyd yn awr yn gyffredin drwy Loegr a Chymru
• Cyd-ddigwyddodd diflaniad y wiwer goch frodorol â dyfodiad gwiwerod llwyd
• Mae yna wahaniaeth barn ynglŷn â bod y gwiwerod llwyd yn gyfrifol am ddiflaniad y gwiwerod coch neu a ddiflannodd y gwiwerod coch oherwydd colli cynefin a chael clefyd ac, yn syml, fe lenwodd y gwiwerod llwyd y bwlch
• Mae gan wiwerod llwyd gefn a chynffon lwyd a bol gwyn, mae eu hochrau weithiau’n gochaidd. Yn ystod yr haf gall eu cot ymddangos yn frown
• Maent oddeutu 45 centimedr o hyd, yn cynnwys cynffon o 22.5 centimedr, ac maent yn pwyso 450-650 gram
• Byddant yn cyrraedd eu haeddfedrwydd yn 10-12 mis a gallant gael 3-4 torllwyth y flwyddyn gyda 3 ym mhob torllwyth. Mae hyd eu hoes yn ddwy flynedd ar gyfartaledd
• Mae gwiwerod llwyd yn bwyta ffrwythau, cnau, grawnfwyd, blodau, rhisgl coed a blagur ac weithiau’n bwydo ar wyau adar a phryfed. Byddant yn claddu bwyd dros ben 2-5 centimedr o dan y pridd neu mewn gwagle mewn coed mewn safleoedd gwasgarog
• Yn groes i’r gred boblogaidd ni fydd y wiwer lwyd yn gaeafgysgu ond fe allant ddod yn llai actif
Problemau gyda’r wiwer lwyd
• Bydd gwiwerod llwyd yn fwyaf tebygol o greu problemau pan gânt fynediad i wagle to drwy ddiffygion mewn adeiladau. Unwaith y byddant wedi cael mynediad gallant achosi difrod i goed y to, weirio trydanol a phlymio
• Mae gwiwerod llwyd yn bla difrifol i blanhigfeydd coedwigaeth lle byddant yn creu difrod drwy rwygo rhisgl oddi ar foncyffion boed. Gall hyn fod yn broblem mewn parciau hefyd
• Gellir achosi problemau i arddwyr, pobl sydd â rhandiroedd a garddwyr masnachol, wrth i wiwerod llwyd fynd â grawnfwyd, ffrwythau a llysiau
Gwiwerod llwyd a’r gyfraith
• Mae Gorchymyn Gwiwerod Llwyd (Gwahardd Mewnforio a Chadw) 1937 yn ei gwneud yn drosedd rhyddhau gwiwerod llwyd byw wedi eu trapio
• Mae Deddf Mamaliaid Gwyllt (Gwarchod) 1996 yn ei gwneud yn drosedd peri dioddefaint bwriadol diangen ar unrhyw famal gwyllt
• Gellir saethu gwiwerod llwyd ond mae’n drosedd defnyddio dryll yn agos at briffordd neu’n agos at eiddo lle mae pobl yn byw
• Gellir defnyddio maglau sbring cymeradwy (lladd sydyn). Mae’n rhaid archwilio’r rhain yn ddyddiol lle gall anifeiliaid domestig neu anifeiliaid a ddiogelir gael mynediad iddyn nhw. Nid yw trapiau llygod mawr/llygod i’w defnyddio
Yr hyn y gallwch chi ei wneud
• Dylid cynnal a chadw’r eiddo’n dda fel na all gwiwer gael mynediad i ofod y to
• Os bydd gwiwer yn cael mynediad i ofod y to cymerwch gamau cyn gynted ag sydd bosib. Ewch i mewn i ofod y to o’r tu mewn i’r eiddo fel bod y wiwer yn mynd allan drwy’r twll. Yna gellir blocio’r twll, gofalwch wneud hyn yn gadarn gan fod gwiwerod yn gallu bod yn benderfynol iawn. Fel arfer bydd gwiwerod yn ymadael yn hawdd ond fe allant fod yn amddiffynnol os bydd ganddynt rai ifanc

