| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gwenyn Meirch

Ffeithiau am wenyn meirch
• Mae yna ddau fath o wenyn meirch i’w cael yn gyffredin yn y Deyrnas Unedig, y Wenynen Gyffredin a’r Wenynen Almaenaidd
• Bydd y breninesau’n gaeafgysgu mewn adeiladau neu dan risgl coed
• Yn y gwanwyn bydd y breninesau’n chwilio am le i nythu fel twll yn y ddaear, coeden wag neu mewn gofod ym mondo adeilad, atigau a siediau gardd
• Bydd y frenhines yn adeiladu ei nyth gyda deunydd fel papur drwy gnoi darnau bach o bren a’i gymysgu â phoer
• Bydd yn magu ychydig o weithwyr yn y nyth a bydd y rhain yn dechrau ymestyn y nyth a helpu i fagu’r genhedlaeth nesaf o wenyn meirch.  Bydd adeiladu’r nyth yn dechrau o ddifri ym mis Mehefin a bydd yn cyrraedd ei faint mwyaf fel rheol ym mis Medi
• Bydd y gwenyn gweithgar yn chwilio am fwyd hyd at 400 medr o’r nyth.  Bydd y gweithwyr yn bwydo’n bennaf ar ddeunydd siwgraidd fel neithdar
• Bydd maint cytrefi gwenyn meirch yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond ar ei fwyaf gall nyth gynnwys rhwng 5,000 -10,000 o wenyn meirch
• Yn yr hydref bydd y breninesau ifanc yn paru ac yn gadael y nyth i aeafgysgu, bydd gweddill y nyth yn marw ac ni ddefnyddir y nyth byth eto

Pigiadau gwenyn meirch
Bydd unigolion yn ymateb yn wahanol i gael eu pigo gan wenyn meirch.  Prin y bydd rhai’n cael eu heffeithio, bydd eraill yn dioddef poen sylweddol a chwydd.
 
Mae rhai pobl yn ddifrifol alergol i bigiad gwenyn meirch ac mewn rhai achosion gall olygu marwolaeth sydyn oherwydd sioc anaphylactig.
 
Achosir y boen gan bigiad gwenyn meirch gan hylif gwenwynig sy’n cynnwys protein cymhleth, sy’n cael ei chwistrellu drwy’r pigyn fel nodwydd wrth iddo dreiddio i mewn i’r dioddefwr.
 
Triniaeth
• Yn dibynnu ar leoliad nyth y gwenyn meirch, efallai na fydd angen dinistrio’r nyth.  Os gellir eu gadael heb darfu arnyn nhw, yn aml iawn ni fydd y gwenyn yn dod yn bla a gellir gadael llonydd iddyn nhw
• Os nad yw’n bosib gadael nyth gwenyn meirch, y strategaeth fwyaf effeithiol yw lleoli a dinistrio’r nyth neu’r nythod
• Os penderfynwch chi ddinistrio’r nyth eich hun, dylid ymgymryd â’r driniaeth yn gynnar neu’n hwyr yn y dydd pan fydd gweithgaredd y gwenyn meirch ar ei isaf.  Mae’r rhan fwyaf o siopau nwyddau metel a chanolfannau garddio’n gwerthu chwistrell a phowdr pryfleiddiad ar gyfer trin gwenyn meirch, ond mae’n rhaid gofalu dilyn y cyfarwyddiadau ar y label
• Yn bwysicach os byddwch yn penderfynu trin y nyth eich hun gofalwch eich bod wedi eich amddiffyn yn erbyn pigiadau gwenyn meirch a bod gennych fynediad diogel i ac o leoliad y nyth
• Defnyddir pryfleiddiad i’w roi ar y fynedfa i’r nyth fel bod y gwenyn sy’n dychwelyd yn ei gario i mewn i galon y nyth.  O fewn ychydig oriau dylai’r gwenyn meirch i gyd fod wedi marw

Y gwasanaeth a ddarparwn ni
Am bris gallwn roi cyngor neu driniaeth i ddinistrio nyth gwenyn meirch.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych