Drafft Cynllun Addysg Gymraeg y cyngor – mae angen eich barn
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i bobl am eu barn ar ddrafft y Cynllun Addysg Gymraeg, yn dilyn cymeradwyaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae’r ddogfen yn edrych ar y ddarpariaeth bresennol, ar godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg a gwybodaeth i rieni, asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, ehangu’r ddarpariaeth, darparu addysg i hwyrddyfodiaid, cludiant, trefniadau monitro a sut i ddelio â chwynion.
Mae 15,348 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu yn Sir Ddinbych (7,612 yn y sector gynradd a 7,746 yn y sector uwchradd). Mae 23.1% o ddisgyblion cynradd y sir a 18% o’i disgyblion uwchradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog. Mae 5.5% o ddisgyblion y sir sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn eu haddysg yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: 'Mae’r Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw dwyieithrwydd yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain. Rydyn ni am i bob plentyn a pherson ifanc adael addysg lawn amser yn gymwys ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r ieithoedd Cymraeg a Saesneg. Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn cynyddu ac yn cryfhau natur ddwyieithog eu hysgol dros amser ac y byddant yn gweithio tuag at symud i fyny’r categorïau fel bod mwy o ddisgyblion yn cael y cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog.'
Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn cychwyn ar Fehefin 21 ac yn gorffen ar y 1 Hydref.
Os ydych yn dymuno rhoi sylwadau ar y cynllun allwch anfon sylwadau ymlaen at: Cynllun Addysg Gymraeg, Moderneiddio Addysg, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN, yn ddim hwyrach na Hydref 1.
Neu fe allwch e-bostio unrhyw sylwadau at:
moderneiddioaddysg@sirddinbych.gov.uk

