| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Yn Dathlu 25 Mlynedd Eithriadol Cystadleuaeth Celf 2010

Yn Dathlu 25 Mlynedd Eithriadol Cystadleuaeth Celf 2010

25 mlynedd yn ôl, dynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Rydym yn gwahodd plant i greu celfwaith sy’n dathlu prydferthwch, hanes, bioamrywiaeth a diwylliant Bryniau Clwyd.  Dylai’r celfwaith fod o faint A4 a rhaid ysgrifennu enw’r Artist, eu hoed, cyfeiriad a rhif ffôn ar y cefn.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Dinbych a Fflint ar y 19eg Awst 2010. Bydd enillwyr yn cael eu hysbysu drwy’r post neu dros y ffôn. Bydd y cynnig buddugol o bob categori oedran: 4 – 7 mlwydd oed, 8 – 12 mlwydd oed neu 13 – 16 mlwydd oed yn ennill taleb £40 ar gyfer pryd i’r teulu yng Nghaffi Florence, Parc Gwledig Loggerheads.

Rheolau’r Gystadleuaeth
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant 4 – 16 mlwydd oed.
2. Dylai’r celfwaith fod o faint A4.
3. Dylai’r celfwaith fod yn waith yr unigolyn sy’n cyflwyno’r darn.
4. Bydd y celfwaith buddugol yn cael ei arddangos a’i ddefnyddio yng nghyfryngau Bryniau Clwyd, h.y. cylchgronau a’r wefan.
5. Dylai Tîm Bryniau Clwyd dderbyn yr holl gynigion ar gyfer y gystadleuaeth erbyn dydd  Llun 9fed Awst 2010. Mae’r manylion cysylltu wedi’u rhestru isod.

Cystadleuaeth Celf Bryniau Clwyd, Parc Gwledig Loggerheads, Ger Yr Wyddgrug, Sir Ddinbych. CH7 5LH www.clwydianrangeaonb.org.uk.

Enillwch daleb £40 ar gyfer pryd i’r teulu yng Nghaffi Florence Parc Gwledig Loggerheads

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych