| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Trwyddedau - alcohol ac adloniant - gweithgaredd tros dro

Crynodeb o’r Drwydded

Os ydych am gynnal digwyddiad ad-hoc yn Lloegr neu Gymru, mae’n rhaid i chi roi Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro i’r awdurdod trwyddedu lleol yn ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.  Os yw’r lleoliad lle mae’r digwyddiad i’w gynnal mewn ardal a reolir gan ddau neu fwy o awdurdodau lleol mae’n rhaid gwneud ceisiadau i’r ddau.


Mae’n rhaid i chi hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r heddlu’n ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.


Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i roi Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro a gallwch roi uchafswm o bump y flwyddyn.  Os ydych yn gyn ddaliwr trwydded bersonol, gallwch roi uchafswm o 50 o Hysbysiadau o Ddigwyddiad Dros Dro y flwyddyn.


Mae’n rhaid i’ch digwyddiad gynnwys dim mwy na 499 o bobl ar unrhyw adeg a phara’n ddim mwy na 96 o oriau gydag 24 awr o leiaf rhwng digwyddiadau.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae’n rhaid gweithredu gweithgaredd y gellir ei drwyddedu fel y’i nodir mewn hysbysiad sy’n rhaid ei roi.


Mae’n rhaid i’r hysbysiad fod mewn fformat penodedig ac mae’n rhaid i rywun dros 18 oed ei roi.


Dylai’r hysbysiad gynnwys:
• a oes alcohol i’w ddarparu, datganiad yn cadarnhau ei bod yn amod o ddefnyddio’r safle i’r cyflenwadau gael eu gwneud yn ôl awdurdod defnyddiwr y safle
• datganiad sy’n ymwneud â materion arbennig
• unrhyw wybodaeth ofynnol arall


Y materion y cyfeirir atynt uchod yw:
• manylion o’r gweithgareddau trwyddedadwy
• cyfnod y digwyddiad
• yr amseroedd yn ystod y cyfnod hwnnw y bydd y gweithgareddau’n digwydd
• uchafswm arfaethedig y bobl a ganiateir ar y safle
• unrhyw faterion gofynnol eraill

Crynodeb Gweithredol

Crynodeb o feini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon

Proses Werthuso’r Ceisiadau

Mae’n rhaid rhoi’r Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn ysgrifenedig, wedi ei ddyblygu, i’r awdurdod lleol o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.  Mae ffi'n daladwy gyda’r hysbysiad.


Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod derbyn yr hysbysiad drwy roi hysbysiad i ddefnyddiwr yr eiddo cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf y’i derbyniwyd neu gyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith os nad yw’r diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad yn ddiwrnod gwaith.


Mae’n rhaid i ddefnyddiwr y safle roi hysbysiad hefyd i brif swyddog adran leol yr heddlu yn ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn cyfnod y digwyddiad.


Gall prif swyddog yr heddlu sy’n derbyn hysbysiad ac sy’n credu y byddai’r digwyddiad yn tanseilio amcanion atal trosedd roi rhybudd gwrthwynebu i’r awdurdod trwyddedu a defnyddiwr y safle.  Mae’n rhaid rhoi’r rhybudd o fewn 48 awr o dderbyn yr hysbysiad o ddigwyddiad dros dro.


Mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu lleol gynnal gwrandawiad os rhoddir rhybudd o wrthwynebiad.  Gallant roi gwrthrybudd os ystyrir ei bod yn angenrheidiol i hyrwyddo’r amcan o atal trosedd. Mae’n rhaid gwneud penderfyniad o leiaf 24 awr cyn dechrau’r digwyddiad.


Gallai prif swyddog yr heddlu addasu’r Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro gyda chydsyniad defnyddiwr y safle.  Mewn achos felly pennir bod rhybudd o wrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl.
Gall yr awdurdod trwyddedu ddarparu gwrth-hysbysiadau os cafwyd mwy na’r nifer a ganiateir o Hysbysiadau o Ddigwyddiad Dros Dro.

Proses Werthuso’r Ceisiadau
Fydd Cydsyniad Dealledig yn Gymwys?

Bydd.  Golyga hyn y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Ymgeisio ar-lein

Ymgeisio am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Iawn am Gais a Fethodd

Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os rhoddir gwrth-hysbysiad o ran rhybudd o wrthwynebiad gall yr apelydd apelio yn erbyn y penderfyniad.  Mae’n rhaid gwneud apeliadau i’r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod.  Ni ellir dwyn apêl yn hwyrach na phum diwrnod gwaith o ddyddiad y digwyddiad arfaethedig.

Iawn i Ddaliwr y Drwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Cwynion Defnyddwyr

Os ceir cwyn byddem yn cynghori mai chi sy’n cysylltu’n gyntaf â’r masnachwr – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf o dderbyn).  Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych wedi eich lleoli yn y DU, fe wnaiff  Cyswllt Defnyddwyr Cymru roi cyngor i chi.  Cysylltwch â’r UK European Consumer Centre y tu allan i’r DU.

Iawn Arall

Os bydd awdurdod trwyddedu’n penderfynu peidio rhoi gwrth-hysbysiad o ran rhybudd o wrthwynebiad gall prif swyddog yr heddlu apelio’r penderfyniad.  Mae’n rhaid gwneud apeliadau i’r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod.  Ni ellir dwyn apêl yn hwyrach na phum diwrnod gwaith i ddiwrnod y digwyddiad arfaethedig.

Cymdeithasau Masnach

National Outdoor Events Association (NDEA)

Society of Event Organisers (SEO)

Event Supplier and Services Association (ESSA)

TSNN Online Directory

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych