Cerddwch drwy Farchnad y Rhyl ar ddiwrnod marchnad ac fe sylwch chi ar rywbeth gwahanol iawn - mae’r farchnad wedi cael ailwampiad llwyr a rŵan mae’n farchnad sy’n siŵr o blesio. Pa ffordd well o ddathlu pen-blwydd cyntaf y farchnad na thrawsnewid y farchnad flaenorol a oedd yn edrych yn ddi-wefr yn rhywbeth sy’n llawer mwy chwaethus ac atyniadol yn weledol, wrth gynnal delwedd broffesiynol yr un pryd. Yn rhan o’r ailwampiad mae’r Cyngor wedi cyflwyno agwedd unffurf tuag at y stondinau efo canopïau newydd sbon o stribedi gwyrdd a gwyn i addurno Stryd Fawr y dref ar ddyddiau marchnad (dydd Iau a dydd Sadwrn). |
|
Mae yna gymysgedd o stondinau’n gwerthu ystod eang o nwyddau efo rhywbeth i bawb: planhigion, cynnyrch gardd, stondinau bwyd, bara, ffrwythau a llysiau, cyflenwadau anifeiliaid anwes, dillad babi, sosbenni a phadelli, dodrefn meddal, dillad, carped, cig, gemwaith, arteffactau a llawer mwy. |
![]() |
Mae dyluniad newydd y stondinau’n golygu hefyd bod angen i fasnachwyr werthu o fewn ffiniau eu llain a pheidio â chuddio unrhyw feinciau stryd ac arddangosiadau blodau. Mae’r farchnad ar ei newydd wedd yn cael ei rheoli gan adran Drwyddedu Sir Ddinbych a’r nod ydi annog mwy o bobl i ymweld â chanol y dref a chefnogi busnesau lleol. |
Hoffech chi wybod mwy am y farchnad? Yna ffoniwch 01824 706342; e-bost: trwyddedu@sirddinbych.gov.uk neu ysgrifennwch at yr Adran Drwyddedu, Cyngor Sir Ddinbych, Tŷ Russel, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP. Marchnad y Rhyl - stryd sy’n siŵr o blesio. |
|


