| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Adrodd draen sydd wedi blocio

Draeniau a Charthffosydd

Caiff carthion ei symud o’ch cartref i safle triniaeth drwy rwydwaith o bibellau.  

Carthffosydd

Cyfrifoldeb Dwr Cymru yw edrych ar ol chorthffosau cyhoeddus yn y Sir. System garthffosiaeth ydi rhwydwaith o bibellau sy’n casglu carthion o ddau neu fwy o eiddo.  Mae angen adrodd problemau â charthffos fudr i Ddŵr Cymru ar 0800 085 3968.

Draeniau Preifat

Bydd draen yn aros yn gyfrifoldeb i berchennog/breswylydd yr eiddo hyd y pwynt lle na fydd o fewn cwrtil eich eiddo neu lle bydd yn cysylltu â charthffos.  Os bydd y draen wedi blocio y tu allan i ffin eich eiddo, yna mae’n debyg mai cyfrifoldeb Dŵr Cymru fydd ei ddadflocio.

Systemau Draenio Eraill

Ar y briffordd gyhoeddus, cyfrifoldeb Cyngor Sir Ddinbych ydi’r gylïau yn y ffordd.  Mae gylïau ffordd wedi eu dylunio i ddraenio’r briffordd yn unig.  Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn trefnu glanhau pob gyli ffordd a draen ar sail rota, fel bod pob gyli’n cael ei lanhau o leiaf unwaith y flwyddyn.  Ar ffyrdd preifat, cyfrifoldeb y perchennog / preswylydd ydi’r gylïau ffordd a’r draeniau a draeniad y dŵr arwyneb mewn ardaloedd parcio preifat.  Mae’r cyfrifoldeb hwn yn ymestyn hyd at y cysylltiad â’r garthffos dŵr arwyneb gyhoeddus.

Adroddiad Diffyg: Draeniau

Os mai prif ddraen yw’r draen rydych chi am ei adrodd, cysylltwch â Dŵr Cymru/Welsh Water ar  0800 085 3968.
Dim ond gylïau dŵr glaw neu ddraeniau storm y bydd y Cyngor yn eu cynnal a bydd y rhain, fel rheol, wedi eu lleoli ar y ffordd gerbydau wrth ymyl y cwrb.

I adrodd gyli neu ddraen storm sydd wedi eu blocio â dŵr glaw ffoniwch Ganolfan Alw Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706101 neu llenwch y ffurflen ar-lein yma.

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych