| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cyfryngau cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol wedi agor sianel gyfathrebu newydd yn ychwanegol at ein gwasanaethau eraill.
Mae gennym gyfrifon ar Facebook, Twitter a Flickr ar hyn o bryd.  Byddwn yn postio gwybodaeth ar gyfer ein preswylwyr ar ein cyfrifon ond byddwn yn croesawu ymholiadau ac adborth gan ddefnyddio’r sianelau hyn.
Isod mae dolenni i bob cyfri cyfryngau cymdeithasol rydyn ni’n ymwneud â nhw:

Facebook
Cyngor Sir Ddinbych
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Sir Ddinbych Tywydd Gaeafol Cyngor
Sir Ddinbych Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Llyfrgelloedd Sir Ddinbych
Rhwydwaith 14-19 Sir Ddinbych
Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych
Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych
Ffederasiwn Tenantiaid a Thrigolion Sir Ddinbych
Y Drafodaeth Fawr Sir Ddinbych
Gwasanaethau Tai Sir Ddinbych
Drysau Agored Sir Ddinbych

Twitter
@CyngorSDd
@regeraterhyl
@DenbighshireFIS
@DCCHousing
@timgwefancsd

Flickr
Cyngor Sir Ddinbych
GHLIDC Sir Ddinbych

Wordpress
Blog y Prif Weithredwr
Blog Arweinydd y Cyngor

Ystyriwch y canlynol pan fyddwch yn defnyddio unrhyw rai o’r  cyfrifon uchod;

Dilyn, Hoffi ac Aildwitio
Yn anffodus ni fyddwn yn gallu dilyn ein dilynwyr i gyd ‘yn ôl’ gan y byddai hynny’n rhy anodd ei reoli.  Fe wnawn ni ddilyn neu ‘hoffi’ partneriaid perthnasol a chyfrifon sydd â gwybodaeth  allweddol sy’n ymwneud â gwaith y Cyngor.  Fe wnawn aildwitio gwybodaeth o ffynonellau eraill os teimlwn fod hynny’n berthnasol neu i gefnogi ymgyrchoedd, un ai’n lleol neu’n ehangach, os bydd yn ymwneud â’n gwaith neu ein gwasanaethau.

Safoni
Gwyddom fod mwyafrif y bobl yn barchus ond mae gennym rai canllawiau a thelerau defnyddio ynglŷn â safleoedd ein cyfryngau cymdeithasol.
o Peidiwch â phostio unrhyw ddatganiadau anwir, niweidiol neu ddifrïol
o Peidiwch â phostio datganiadau ymfflamychol sy’n cynnwys sylwadau sy’n hiliol, rhywiaethol, anllad neu fygythiol
o Peidiwch â dal i bostio’r un negeseuon, gelwir hynny’n ‘sbamio’
o Byddwch yn ystyriol bob amser o hawlfraint, peidiwch â phostio unrhyw beth nad oes gennych chi’r hawliau iddo
o Peidiwch â defnyddio’r dudalen i hysbysebu cynnyrch neu wasanaethau 
o Peidiwch â rhegi
o Yn ystod y cyfnod cyn-etholiad neu ‘purdah’ mae’n rhaid i Gynghorau fod yn ofalus felly bydd unrhyw ddatganiadau sy’n amlwg yn wleidyddol yn cael eu dileu

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych