| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cwcis

Beth ydi cwcis?
Ffeiliau testun bychan ydi cwcis sy’n cael eu storio yn eich cyfrifiadur ac sy’n darparu manteision ymarferol i ddefnyddwyr a gweithredwyr gwefannau.  Pan fyddwch yn ymweld â safle sy’n defnyddio cwcis am y tro cyntaf, fe lawrlwythir cwci i’ch Cyfrifiadur Personol.  Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r safle honno, bydd eich Cyfrifiadur Personol yn gwirio i weld a oes ganddo gwci sy’n berthnasol (hynny yw, un sydd ag enw’r safle) ac yn anfon y wybodaeth sydd yn y cwci hwnnw’n ôl i’r safle.
Mae’r safle’n ‘gwybod’ wedyn eich bod wedi bod yno o’r blaen, ac mewn rhai achosion, yn teilwra’r hyn sy’n dod i fyny ar y sgrin i ystyried y ffaith honno.   Ni fydd cwcis yn gwneud unrhyw niwed i’ch cyfrifiadur.  Bydd cynnwys y cwcis yn cael ei ddarllen a’i ysgrifennu gan dudalennau’r wefan y byddwch yn ymweld â nhw.  Fyddan nhw ddim yn chwilio eich gyriant caled a dim ond gwybodaeth y byddwch wedi ei hanfon i’r wefan y gallan nhw ei storio, neu’r hyn y bydd ar y wefan eisiau ei storio ynddyn nhw.

Pa gwcis fydd y wefan yma’n eu defnyddio?
Byddwn yn gosod tri chwci o’n gwefan.

Google analytics
Bydd Google Analytics yn dangos i ni sut y daeth pobl o hyd i’n safle a sut y buon nhw’n ei fforio a chasglu cwcis parti cyntaf.  Fe anfonir y wybodaeth hon at Google ac fe’i defnyddir i werthuso’r ffordd y mae ein gwefan yn cael ei defnyddio.  Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar gwefan cod Google .

Gwasanaeth Defnyddio SOCITM
Mae gwasanaeth defnyddio Socitm yn darparu gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr â’n safle, yn ogystal â gwybodaeth arall am resymau pobl am ddod i’r safle, sut y daethon nhw yno, sut brofiad oedd o ac a ydyn nhw’n  debygol o ymweld eto.   Fe gesglir y wybodaeth drwy arolwg ymadael byr ac fe gaiff ei lansio wrth i bob pumed ymwelydd adael y safle.
Bydd Gwasanaeth Defnyddio Gwefan Insight Socitm yn defnyddio cwcis i bennu a yw cwsmer wedi cyfranogi i’r arolwg ai peidio.  Bydd yr arolwg yn defnyddio’r wybodaeth yma i atal cwsmer sy’n defnyddio’r un cyfrif defnyddiwr ar yr un cyfrifiadur rhag cael yr un cwestiwn i gyfranogi yn yr arolwg eto yn ystod y flwyddyn arolwg gyfredol.  Mae’r cwcis hyn wedi eu gosod i ddod i ben flwyddyn ar ôl eu gosod.  Gellir cael gwybodaeth bellach ar wefan Socitm gwasanaeth defnyddio cwcis a gwefan .

Tudalennau canlyniadau chwiliad Siteimprove
Bydd Siteimprove yn casglu ystadegau am ddefnydd y safle, fel pa dudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw a pha bryd oedd y tro diwethaf i chi ddod i’r safle.  Gellir defnyddio’r wybodaeth yma i wella eich profiad ar ein gwefan.
Gellir cael manylion y cwcis a osodir gan Siteimprove drwy ymweld âu tudalen wybodaeth cwcis .

Allaf i ddileu neu gyfyngu ar gwcis?
Rydyn ni’n cymeradwyo eich bod yn caniatáu’r cwcis uchod, ond os byddwch yn penderfynu yr hoffech ddileu neu reoli pa gwcis a ganiateir, yna mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn i’w chael ar aboutcookies.org

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych