Lleolir y Grŵp Gwasanaethau Adeiladu yng Nghaledfryn, Dinbych ac mae'n cynnwys y pedair Adran ganlynol:
Cynnal a Chadw Adeiladau Cyhoeddus sy'n cynnwys cynnal a chadw adeiladau cyhoeddus yr Awdurdod, megis ysgolion, canolfannau hamdden, lyfrgelloedd, adeiladau diwylliannol a thwristiaeth, neuaddau tref a swyddfeydd dinesig, depos, cartrefi pobl oedrannus, unedau diwydiannol a busnes. Mae'r Adran hefyd yn delio ag arolygon cyflwr a phroblemau a chyngor ar holl faterion adeiladau cyhoeddus. Mae'r gwasanaeth hwn wedi ei rannu'n fras rhwng dau dîm ardal ac mae yna hefyd Ddesg Gymorth Cynnal a Chadw Adeiladau i ddelio ag ymholiadau.
Mae Mân-weithiau yn cynnwys estyniadau, addasiadau, newidiadau a mân waith i holl adeiladau ym meddiant ac a ddefnyddir gan y Cyngor Sir, ac eithrio tai.
Mae Iechyd a Diogelwch Adeiladu yn cynnwys holl faterion Iechyd a Diogelwch adeiladu yng Nghyngor Sir Ddinbych, gan gynnwys rheoli contractwyr, rheoli asbestos a'r rôl Cydlynu CDM ar gyfer y tri grŵp eiddo yn y Gwasanaethau Datblygu.
Rheoli Cyfleusterau ar gyfer holl swyddfeydd dinesig, yn cynnwys glanhau, gofalu, cynnal a chadw tiroedd, rheolwyr adeiladau a holl gostau a rheolaeth feunyddiol. At hyn, mae peirianwyr tân yn yr Adran yn ymgymryd â gwaith gwasanaethu a rheoli diffoddyddion tân ar gyfer holl adeiladau'r Cyngor Sir.
Dylid cyfeirio holl ymholiadau rhagarweiniol at Ddesg Gymorth y Gwasanaethau Adeiladu.
Rhif ffôn: 01824 706893
Rhif ffacs: 01745 814750

Rhoi adborth ar y tudalen hon