| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Archifdy Sir Ddinbych
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708250
Ffacs:
01824 708258
Ebost
Gwasanaeth Archifau
Archifdy Sir Ddinbych arwyddlun

Newyddion

Mae catalog cofnodion Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen yn awr wedi ei gwblhau ac mae ar agor i’r cyhoedd yn Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych.  Mae’r casgliad mawr a helaeth hwn yn cynnwys cannoedd o gofnodion sy’n ymwneud â hanes yr Eisteddfod, yn cynnwys gohebiaeth ynglŷn â’r ymweliadau brenhinol, telegramau gan Anthony Eden a Sybil Thorndike, posteri lliwgar, ffotograffau o gystadleuwyr o bob cwr o’r byd, recordiadau sain, a llawer mwy.

Mae Gwasanaeth Archifdy Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i chi gael golwg ar gyfoeth o ddogfennau a chofnodion gogledd ddwyrain Cymru yn Archifdy Rhuthun.  Mae'r archifau, sy'n ganolbwynt ein treftadaeth gofnodedig, yn cael eu casglu, eu cadw a'u cyrchu gan staff cymwynasgar a gwybodus.

Ymunwch â'r miloedd sy'n ymweld â'r Archifdy bob blwyddyn i olrhain eu hachau, hanes eu cartrefi, i ganfod rhagor am eu tref, pentref neu stryd yn y gorffennol, neu ddefnyddio'r miloedd lawer o gofnodion at ddibenion swyddogol neu gyfreithiol.

Yn Archifdy'r Sir yn Rhuthun rydym ni yn:

  • eich cynorthwyo i gael gwybodaeth yn uniongyrchol o'r dogfennau yn ein gofal, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif i'r presennol
  • cyflawni gwaith ymchwil ar eich rhan am ffi, os y  dymunwch
  • casglu cofnodion yn ymwneud â Sir Ddinbych gan awdurdodau lleol, plwyfi, capeli, teuluoedd, unigolion, busnesau a sefydliadau o bob math er defnydd a budd cenedlaethau o ymchwilwyr y dyfodol, yn ol ein polisi casglu (gweler y cyswllt 'Polisiau' ar y chwith.
  • casglu a chopïo cofnodion ffotograffig
  • diogelu'r dreftadaeth hon drwy gadwraeth ofalus yr archifau a'u storio mewn ystafelloedd diogel pwrpasol, yn ôl ein polisi cadwraeth (gweler y cyswllt 'Polisiau' ar y chwith).
  • cynorthwyo ein defnyddwyr i chwilio drwy'r cofnodion (fel papurau newydd, ffurflenni cyfrifriad a chofestri plwyf) drwy gyfrwng microffilm neu gyfrifiaduron
  • paratoi arddangosfeydd am archifau
  • cyflwyno sgyrsiau/cyflwyniadau i gymdeithasau a sefydliadau

Nod Archifdy Sir Ddinbych yw cadw cofnod ddogfennol mor gyflawn â phosibl o hanes y Sir. Gall y cyhoedd gynorthwyo drwy hysbysu Archifydd y Sir am unrhyw ddeunydd o ddiddordeb hanesyddol, yn enwedig unrhyw ddeunydd a allai fod mewn perygl.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0  
  Logo DirectGov