Newyddion cludiant cyhoeddus
Yma mae gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys bysus,
cludiant am ddim a hanner pris, cludiant cymunedol a linc hefo darparwyr cludiant eraill
(e.e. Dial a Ride a'r bws nos).
Mae gwybodaeth am fws hamdden 'Bws Clwyd / Clwydian Ranger' sydd ar gael i gerddwyr ac ymwelwyr ar gael o fis Gorffennaf hyd fis Medi . Mae'n rhedeg bob dydd Sul ac ar y gwyliau banc dros yr haf.
De Sir Ddinbych – Newidiadau i Wasanaethau Bws Dros Gyfnod yr Haf
X50/X52 (28 Ebrill 2008)
Mae’r gwasanaeth y Rhyl – Dinbych – Rhuthun – Llandegla – Wrecsam yn cael ei rannu’n ddau yn Ninbych. Mae’r gwasanaethau yn cysylltu gyda’i gilydd. Y gwasanaeth yng ngogledd y sir yw X52 ac X50 yn ne’r sir. Ni fydd teithwyr yn gweld fawr ddim gwahaniaeth yn lefel y gwasanaeth gan y bydd y rhan fwyaf o amseroedd yn parhau yr un fath. Bydd y gwasanaeth coleg o Fodelwyddan i Wrecsam (Coleg Iâl) yn parhau i weithredu fel gwasanaeth trwodd.
Gwasanaeth 1/1A/2 Rhuthun-Yr Wyddgrug (28 Ebrill 2008)
Mân newidiadau i wella’r cysylltiadau a dibynadwyedd, yn enwedig y cysylltiadau gyda’r gwasanaeth 41 yn yr Wyddgrug, i ac o Gaer.
X19 Llangollen-Llandudno (19 Mai 2008)
Gwasanaeth wedi’i ddiwygio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac ar y Sul. Mae’r gwasanaeth cynnar o Gorwen i Landudno yn cael ei ddileu ar ôl ei weithredu am y tro olaf ar 17 Mai 2008 ac mae amseroedd eraill yn newid. Yr amser gadael cyntaf yw 0930 (Llangollen) a 0948
(Corwen).
51/X51 Y Rhyl-Dinbych-Rhuthun-Corwen (19 Mai 2008)
Bydd y teithiau gyda’r nos o’r Rhyl am 1810 a 1920 yn cael eu newid i 1820 a 1920 i hwyluso gwell cysylltiadau gyda threnau yn y Rhyl. O ganlyniad i hyn bydd y 2015 o Rhuthun i’r Rhyl yn gweithredu ddeng munud yn ddiweddarach drwy gydol yr amserlen.
X5/555 Llangollen-Wrecsam (3 Mehefin 2008)
Mae’r daith hon yn parhau i gael ei gweithredu ar y cyd gan gwmnïau Bryn Melyn a GHA, ond o hyn ymlaen:
· Bydd tocynnau dychwelyd rhwng y ddau weithredydd ar gael yn ffurfiol (nid yw hyn wedi bod yn digwydd bob tro yn flaenorol)
· Bydd y rhan Llangollen – Wrecsam yn parhau i gynnig bws bob 15 munud
· Bydd un bws oriau anfrig yn ymestyn y daith i Wyddelwern bob awr, gan roi gwasanaeth bws trwodd Gwyddelwern – Clawdd Poncen – Maes Afallen – Corwen – Llidiart-y-Parc – Gwyddelwern – Llangollen i Wrecsam.
· Bydd y bysiau yn gadael yn hwyrach ar y Sul.
-----------------------------------------------------------------
Newid i'r gwasanaeth bws X14 o 4 Chwefror 2008.
I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau i'r gwasanaeth X14 (Dinbych - Yr Wyddgrug - Caer) o 4 Chwefror 2007, cliciwch ar y linc ar waelod y dudalen hon .
Newidi 02 Hydref 2007
Mae rhai gwasanaethau bws yn newid yn Ne Sir Ddinbych, o Hydref 2 2007. Gweler y llyfrn amserlen newydd am fanylion.
Bydd yr rgwasanaethau isod yn newid, o Hydref 2 2007.
Gwasanaeth 12 Y Rhyl – Llandudno
Gwasanaeth 13 Prestatyn – Llandudno
nylion llawn am y ddau wasanaeth a redir gan Arriva, cliciwch ar y linc ar y chwith o'r dudalen hon .
Teithio am ddim i'r henoed a phobl anabl
Gall pobl dros 60 oed a rhai pobl anabl deithio am ddim yn awr ar fysus yn Sir Ddinbych ac ymhellach. Mae'r pass bws ar gael ar bob gwasanaeth sy'n cymhwyso yng Nghymru i Loegr ac yn ôl, os bydd eich siwrnai yn dechrau ac yn gorffen yng ngogledd Cymru .
Gweler y dudalen wahanol am y manylion ac i gael ffurflen gais. Byddwch angen prawf eich bod yn breswylydd yn Sir Ddinbych a phrawf o'ch oedran (os ydych yn 60 neu drosodd) neu yn anabl. I gael mwy o wybodaeth gweler y ffurflen gais.
Teithio rhatach i bobl ifanc
Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac os ydych rhwng 16 ac18, byddwch yn cymhwyso i gael teithio hanner pris ar bob gwasanaeth i mewn ac allan o ogledd Cymru. Manylion yma (linc i http://www.16218.org )
Os ydych rhwng 19 a 22, gallwch hawlio pass sy'n rhoi disgownt o 25 y cant ar unrhyw fws Arriva sy'n rhedeg i neu allan o Ogledd Ddwyrain Cymru. Manylion yma (linc i http://www.19-22.org )
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01824 706886
Cludiant Cymunedol - cynllun car gwledig
I bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig sydd heb gludiant cyhoeddus, neu i bobl sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r bws, mae wyth cynllun car gwledig ar gael i bobl mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Clawddnewydd, Corwen, Dinbych, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, Corwen, Llangollen a Rhuthun. Ffoniwch am y manylion ar 01824 706858.
Bws nos
Ar gael i unrhyw un sydd dros 50 oed yn y Rhyl, Prestatyn, Dyserth a Llanelwy, menter newydd ar gael un noson yr wythnos.
Ffoniwch 01824 708373 I gael mwy o wybodaeth neu gweler y dudalen wahanol.
Dial-a-Ride
Os ydych yn byw yng ngogledd Sir Ddinbych ac os ydi hi'n anodd defnyddio gwasanaethau bws gallwch ymuno a Dial-a-Ride. Mae Dial-a-Ride ar gael hefyd ar rai diwrnodau yn ardal Dinbych .
Mae ffi aelodaeth ond gall pobl sydd hefo Cerdyn Cymru i bobl anabl deithio am ddim .
Ffoniwch Dial-a-Ride 01745 344222 i gael mwy o wybodaeth .
Bws melyn
Mae'r bws modern hwn sy'n gallu cario 68 o bobl ar gael i ysgolion, colegau a mudiadau ddim am broffid. Cyngor Sir Ddinbych oedd yr Awdurdod cyntaf yng Nghymru i redeg bws mawr a luniwyd yn bwrpasol i gludo plant.
Bydd ar gael i'w hurio gyda'r nos, dros y penwythnos ac yn ystod y gwyliau ysgol a hefyd rhwng rhedeg plant i'r ysgol. Mae'n ddelfrydol ar gyfer ymweliadau addysg i'r pwll nofio tripiau maes a thripiau theatr. Ar y bws mae gwregysau diogelwch dros y glin ac ar draws y frest, ac mae wedi'i wneud i safon uchel gan gynnwys nifer o nodweddion diogelwch a system gwylio teithwyr. Fe'i peintiwyd yn felyn ac mae'n amlwg i eraill sy'n defnyddio'r ffordd. Mae'r gyrwyr i gyd yn gyflogedig gan Gyngor Sir Ddinbych ac wedi cael archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol .
I gael mwy o wybodaeth neu i gael pris agorwch y daflen.


Rhoi adborth ar y tudalen hon