Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i gydraddoldeb o ran cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth. Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod natur amrywiol y sir ac mae'n ceisio sicrhau bod cyflogedig, cyflogedig potensial, contractwyr, partneriaid, clientau a chwsmeriaid yn cael eu trin gyda pharch. Mae'r Cyngor Sir yn gwrthwynebu pob ffurf o wahaniaethu ac mae'n ymroddedig i beidio gwahaniaethau'n annheg oherwydd oed, anabledd, cenedl, hil neu darddiad ethnig, crefydd neu gred, tueddiad rhywiol, iechyd, statws priodasol, cyfrifoldeb am eraill sy'n dibynnu arnoch, statws cymdeithasol neu economaidd neu gofnod troseddol.
Cymerir pob cam posibl i ystyried natur wahanol unigolion a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg a bod penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau a chyflogaeth ar sail meini prawf gwrthrychol. Er mwyn cyflawni ein hymroddiad ein nod yw gwneud cydraddoldeb yn rhan ganolog o'r ffordd y mae'r Cyngor Sir yn gweithio trwy ei roi yng nghanol polisïau, cyflawni gwasanaethau, rheoliadau ac arferion cyflogaeth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi datblygu ei gynllun cydraddoldeb sy'n gosod allan pa gamau a gymrir fel Cyngor Sir i wella cydraddoldeb anabledd, cenedl a hil. Mae'r cynllun yn dangos hefyd sut y byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb cysylltiedig ag Oed, Crefydd a Thueddiad Rhywiol. Rydym wedi cynnwys rhai mesurau perfformiad fel y gallwn ddangos wrth arolygu'r cynllun ein bod yn gwneud cynnydd. Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried wrth gynhyrchu cynlluniau a pholisïau eraill.
Gellir darllen cynllun cydraddoldeb Cyngor Sir Ddinbych 2007 - 2009 ar y linc ganlynol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon