| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Eich Syniadau

Mae’r dudalen hon yn rhoi mynediad i wybodaeth am yr ymgynghoriadau presennol gyda’r manylion ar ein gwefan.  Mae pob ymgynghoriad yng ngofal gwahanol adrannau o fewn y Cyngor. Pe byddech yn dymuno gwneud sylw ar unrhyw un o’r ymgynghoriadau, dilynwch y linciau perthnasol ac fe ddowch o hyd i’r manylion cyswllt perthnasol.  Rhestrir yr holl ymgynghoriadau presennol gyda chrynodeb byr isod.  I weld unrhyw ymgynghoriad sydd wedi cau, dilynwch y linc ar waelod y dudalen os gwelwch yn dda.

Fyddech chi’n hoffi darparu adborth ar Wasanaethau’r Cyngor?
Nod Cyngor Sir Ddinbych yw darparu safon gwasanaethau ardderchog bob amser. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel yn y ffordd fwyaf effeithiol posib. Rydym hefyd yn ymroddedig i wrando ar farn pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Ein nod yw dysgu a gwella o’r wybodaeth a roddwyd. Bydd eich barn yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol.
Cliciwch yma i ddarparu adborth ar wasanaethau’r cyngor os gwelwch yn dda.

Ymgynghoriadau Cyhoeddus
O bryd i’w gilydd rydym yn gwahodd y gymuned leol i roi barn ar gynlluniau, strategaethau a mentrau eraill y mae’r cyngor yn ymwneud â nhw.  Rhoddir sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn y ffordd hon.
Mae’r dudalen ganlynol yn darparu mynediad i wybodaeth am ymgynghoriadau presennol a rhai sydd wedi eu cau.  Treuliwch ychydig o amser i edrych a chysylltu â ni trwy ddefnyddio’r dulliau a nodir ar bob tudalen ymgynghori.
Cliciwch yma i weld yr holl ymgynghoriadau os gwelwch yn dda.

Cysylltu â’ch Cynghorydd
Os ydych am gysylltu â’ch cynghorydd yn uniongyrchol, defnyddiwch y linc isod i ddod o hyd i’r manylion.  Defnyddiwch y ffurflen a ddarperir yma i ganfod y ffordd orau i gysylltu â’ch cynghorydd lleol os gwelwch yn dda.
I ganfod eich cynghorydd lleol, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych