| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn 2008
Garry Davies

 Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu newyddion fod un aelod o'r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr anrhydeddus Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn 2008, mewn cydnabyddiaeth am ddewrder.

Cafodd Garry Davies, sy'n gweithio yn Pwll y Briciau, y Rhyl ei enwebu gan Ian Miller, y Prif Weithredwr am geisio achub Mr Eddie Lewis oedd mewn trafferthion yn y môr oddi ar Draeth Barcbi, Prestatyn fis Rhagfyr.

Aeth Garry ac aelod arall o’r cyhoedd i mewn i’r dwr a nofio tuag at Mr Lewis cyn ei gludo i’r lan. Er gwaethaf ymdrechion y ddau i achub Mr Lewis, yn anffodus fe fu farw.

Dywedodd Ian Miller: “Roedd Garry a'r achubwr arall yn hynod o ddewr. Roedd y llanw yn dod i mewn  a bu Garry a’i gyfaill yn brwydro’r elfennau i ddod a Mr Lewis i’r lan.

'Roedd hwn yn lawer mwy nag y ddisgwylir gan Garry yn ei waith.  Mae Garry wedi cael ei hyfforddi i ddefnyddio cymorth cyntaf a peryglodd Garry fywyd ei hun i achub y gwr.  Roedd hwn yn weithred hynod o ddewr ac hoffwn i Garry dderbyn cydnabyddiaeth am hyn.”

Dywedodd y Cyngorydd Ken Hawkins, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych: 'Rwy'n hynod falch mai un o'n dyletswyddau olaf i fel Cadeirydd yw llongyfarch aelod o staff am gael ei enwebu yn y gystadleuaeth anrhydeddus hwn.

'Mae Garry yn swyddog brwdfrydig a dylai gael ei gymeradwyo am ei ymdrechion ac rwy'n annog pawb i gefnogi'r ymgyrch. Gall eich cefnogaeth wneud gwir wahaniaeth.'

Mae Garry yn un o chwe ymgeisydd yn y categori dewrder ac yn un o ddau o Gymry ymysg y 42 sydd wedi cael eu dewis o blith 350 o ymgeiswyr.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis drwy bleidlais gyhoeddus. Bydd manylion Garry, yn ogystal â film fer amdano ar gael ar www.localgovernmentchannel.com

Ewch i’r wefan a phleidleisiwch dros Garry.  Y dyddiad cau yw Gorffennaf 3ydd.
 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0