
Mae’r bont arfaethedig sy’n costio miliynau o bunnau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn Harbwr Y Rhyl gam yn nes at ddod yn realaeth wrth i elusen cludiant cynaliadwy Sustrans, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru ddadorchuddio’r dyluniad eiconig ar gyfer y bont a phenodi cwmni ar Fehefin 5 2009 i’w hadeiladu.
Bydd y bont yn un 80m dros Afon Clwyd yn Harbwr y Foryd. Fe ddyfarnwyd y cytundeb i gangen Gogledd Cymru’r contractwr Dawnus, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, mewn cysylltiad â swyddfa’r peirianwyr dylunio, Gifford, yng Nghaer.
Fe fydd y bont droed a beiciau yma a fydd yn dirnod, yn creu croesfan newydd dros Harbwr y Foryd ac yn cysylltu â rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio newydd a phresennol yng nghalon ardal adfywio’r Rhyl, gan agor yr ardal ar gyfer teithiau dyddiol gan gerddwyr, beicwyr, pobl sy’n gwthio bygis ac yn defnyddio cadeiriau olwyn. Mae’r bont wedi ei dylunio i ganiatáu mynediad i bawb, felly mae graddiant wrth ddynesu’n finimal.
Fe groesawn eich barn a’ch sylwadau ar yr argymhellion ac fe’ch gwahoddir i lenwi ein holiadur.

Mae gwaith ar y safle i gychwyn yn gynnar yn 2011 ac fe ddylent fod wedi eu cwblhau o fewn chwe mis gan y bydd llawer o’r gwneuthuriad yn digwydd oddi ar y safle fel y gall rhannau mawr gael eu codi i’w lle i leihau unrhyw aflonyddwch i’r harbwr gweithio.
Bydd y bont yn costio £4 miliwn ac fe’i hariennir gan Gronfa’r Loteri Fawr drwy Sustrans' Connect2, ERDF ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am reolaeth prosiect y bont.
Bydd y bont arfaethedig yn cau’r bwlch yn Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 sy’n rhedeg ar hyd arfordir Gogledd Cymru a bydd yn cysylltu West Parade, Y Rhyl gyda’r llwybr beicio i’r Gogledd o’r Harbwr ym Mae Cinmel. Bydd y bont yn agor i roi mynediad i gychod i’r harbwr.

Mae’n bont siglog efeilliol sy’n codi o gwmpas tŵr canolog. Bydd y ddau ddec sy’n 32m o hyd o wneuthuriad sy’n defnyddio Polymer Ffibr Gwydr Cyfnerth (GFRP). Bydd angen ychydig iawn o bŵer i godi’r deciau cymharol ysgafn hyn o’i gymharu â’r rhai mwy confensiynol sydd o wneuthuriad dur.
Caiff y deciau eu cynnal gan geblau’n hongian o gylch sy’n mynd o gwmpas y tŵr canolog. Bydd pistonau y tu mewn i’r tŵr yn gwthio’r cylch i fyny’r tŵr. Cysylltir ceblau rhwng y cylch a deciau’r bont fel bod y deciau’n cael eu codi wrth i’r cylch esgyn i fyny’r tŵr, rhywbeth yn debyg i’r ffordd mae ambarél yn gweithio. Bydd y tŵr 50m o ddur gwrthstaen ac fe gânt eu rhaffu gan gyfres o geblau wedi eu tyniannu yn erbyn y pier canolog, gan wneud iddo ymddangos fel y rigin ar long. Bydd y parapet yn ddur gwrthstaen gyda chanllawiau o bren caled.
Mae’r prif ddefnyddiau, GFRP a dur gwrthstaen wedi eu dewis gan eu bod yn gryf gydag ychydig iawn o ofynion cynnal a chadw.

Yn dilyn yr ymgynghori cyhoeddus fe gyflwynir cais cynllunio a bydd dyluniad manwl y bont yn mynd rhagddo.
Oherwydd ffurf yr adeiladwaith fe fydd swm sylweddol o’r rhagffurfiad yn digwydd oddi ar y safle yn ystod 2010. Rhagwelir y bydd gwaith ar y safle’n cychwyn yn gynnar yn 2011 a’r bont i’w chwblhau o fewn 6 mis i pan gychwynnir ar y safle.

