Mae trigolion Sir Ddinbych yn ailgylchu mwy na neb arall yng Nghymru, ac rydyn ni am iddi aros felly!
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymgynghori rŵan hyn ar a ddylid gorfodi cynghorau i newid eu systemau ailgylchu i ffafrio system a elwir yn ‘ddidoli ar garreg y drws’. Dyma’r math o system oedd gennym ni’n flaenorol yn Sir Ddinbych gyda’n bocsys glas.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n meddwl fod y systemau didoli ar garreg y drws yn well gan fod gweithwyr y cyngor yn mynd drwy’r deunydd ar ochr y ffordd, ac yn gadael unrhyw eitemau na ddylai fod yno, ar ôl - ond, rydyn ni’n credu fod y system o gymysgu’n well gan ei bod yn haws ac yn fwy cyfleus i’n trigolion. Rydyn ni’n gofyn i drigolion roi eu deunydd ailgylchu I GYD mewn bagiau neu finiau olwyn. Yna byddwn yn cludo’r defnyddiau i gyd i ffatri lle bydd yn cael ei ddidoli’n fecanyddol.
Fe ganfu arolwg trigolion yn ddiweddar roedd tair gwaith yn fwy o drigolion yn dweud eu bod eisiau defnyddio’r system gymysgu’n hytrach na’r didoli ar garreg y drws.
Mae arnom ni angen i chi roi eich barn i’r Cynulliad – yn enwedig os ydych chi’n un o’r bobl sydd wedi dechrau ailgylchu mwy oherwydd ein systemau newydd.
Y Cynulliad sy’n ariannu’r cyfan bron o weithgareddau ailgylchu’r cyngor, felly mae’n rhaid i ni ystyried hyn yn ddifrifol iawn. Yn rhan o’i ymgynghoriad mae’r Cynulliad yn dweud: “mae systemau didoli ar garreg y drws yr un mor boblogaidd ymysg trigolion â’r casgliadau cymysg. . .”
Dydyn ni ddim yn credu fod hyn yn wir felly mae angen i chi ddefnyddio’r ddolen isod er mwyn: RHOI EICH BARN I’R CYNULLIAD!
- Ydych chi’n credu fod system gymysg syml fel yr un sydd gennym ni wedi eich annog CHI i ailgylchu mwy?
- Hoffech chi i’ch casgliad bin olwyn glas newid i system focs a sach wythnosol, sef y system y mae’r Cynulliad yn ei hargymell?
- A ddylai cynghorau gael eu cosbi’n ariannol am lynu at eu system o gymysgu? Dyma beth mae’r Cynulliad yn ei awgrymu.
- Pa lefel blaenoriaeth ddylid ei roi i farn trigolion pan fydd cynghorau’n penderfynu ar eu systemau casglu?
Cwestiwn 22 yn ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru yw’r un rydyn ni’n awyddus i chi ymateb iddo fo.
Y cwestiwn ydi: A ddylai llywodraeth ganolog atal cyllid i gynghorau sy’n gwrthod darparu’r math o wasanaethau y mae llywodraeth ganolog yn eu barnu’n wasanaethau gorau?
Mae’r Cynulliad yn gofyn y cwestiwn hwn gan eu bod am i Sir Ddinbych STOPIO defnyddio’r system bresennol a’n gorfodi i gymryd y llwybr yma.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Medi 2010 ar un or ffurfiau a ganlyn:
Post: Catherine Reynolds, Waste Strategy Branch, Welsh Assembly Government c/o Environment Agency Wales, Ty Cambria, 29 Newport Road, Cardiff, CF24 0TP
Am ragor o wybodaeth yn glyn a'r ym gynghoriad hwn, galwch 02920 466090
Ebost: wastestrategy@wales.gsi.gov.uk
Fe fyddem ni'n hoffi gwybod beth yw eich barn chi hefyd, felly anfonwch gopi o'ch neges e-bost i ni os gwelwch yn dda.
Y cyfeiriad ydy gwasanaethau.amgylcheddol@sirddinbych.gov.uk
Dilynwch y DDOLEN HON a rhowch eich barn i’r Cynulliad! Fe hoffem ni glywed eich barn hefyd felly rydyn ni’n gofyn i chi ein copïo ni i mewn yn eich e-bost. Mae ein cyfeiriad yn y llinell cc ond fe allwch ei ddileu os mynnwch chi.
Diolch i chi am eich cefnogaeth.
Os hoffech chi weld ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cynllun Sector Trefol - Rhan 1 Drafft, ’ewch i’w gwefan.

