Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar ôl y dyddiad cau derbyn

Llenwch y ffurflen gais os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013.

Os oes arnoch chi eisiau symud eich plentyn o un ysgol i ysgol arall, llenwch y ffurflen gais ar gyfer trosglwyddiadau ysgol.

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Darllenwch y nodiadau pwysig hyn a thiciwch i gadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno cyn i chi gwblhau’r cais hwn am le mewn ysgol:

    Rhiant cyfreithiol, gofalwr neu warcheidwad y plentyn yn unig a gaiff lenwi’r ffurflen gais hon.

    Pan fo cyfrifoldeb a rennir rhwng rhieni, dylai’r ddau riant gytuno ar y dewisiadau a restrir yn y cais hwn. Cyfrifoldeb y rhieni yw dod i’r cytundeb hwn.

    Darperir cludiant ysgol am ddim fel arfer i’r ysgol addas agosaf yn unig os yw’n fwy na 2 filltir o’r cyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Derbyn - Blwyddyn 6, neu’n fwy na 3 milltir o gyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7 – Blwyddyn 11.

    Gallwch fynegi dewis am addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu addysg sy’n seiliedig ar ffydd.

  • Rwy’n cadarnhau fy mod yn deall ac yn cytuno â’r pwyntiau uchod.