Mae arbed neu gynilo ynni yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yn ogystal ’ch helpu i arbed arian drwy leihau’ch biliau ynni a’ch cadw’n gynhesach. Mae gwella erfformiad ynni eich tyˆ yn un ffordd o arbed ynni. Y prif ffyrdd eraill yw lleihau eich iliau tanwydd a gwneud yn siwˆr eich bod yn defnyddio ynni yn effeithlon.
Dyma rai syniadau i'ch rhoi ar ben y ffordd:
- Diffoddwch y goleuadau pan nad ydych yn eu defnyddio, neu pan fyddwch yn gadael yr ystafell.
- Pan mae'n oerach, caewch eich llenni cyn iddi dywyllu, bydd hyn yn helpu i gadw'r gwres yn yr ystafell.
- Defnyddiwch y rhaglennydd ar eich system wresogi fel bod y gwres ymlaen pan fyddwch yn y tyˆ yn unig. Gosodwch eich gwres i ddod ymlaen hanner awr cyn i chi ddeffro, a diffodd hanner awr i awr cyn i chi fynd i'r gwely.
- Dylai thermostat eich ystafell gael ei osod ar dymheredd cyfforddus; awgrymir bod hyn rhwng 18-21°C. Os byddwch yn gostwng y tymheredd ar eich thermostat, o fewn yr ystod hon, o 1°C, gallwch leihau eich biliau ynni. Cofiwch fodd bynnag, os ydych yn oedrannus, na ddylai tymheredd yr ystafell fyw gael ei osod yn is na 21°C.
Ymweliad wefan UK Power (gwefan allanol) am mwy gwybodaeth
Cael eich talu i gynhyrchu eich ynni eich hun
Mae'r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy Domestig yn gymhelliant ariannol gan y llywodraeth i hyrwyddo'r defnydd o wres adnewyddadwy. Os byddwch yn gosod system wres adnewyddadwy fel paneli solar neu foeler biomas, gallech gael eich talu am swm y gwres y bydd eich systemau’n ei gynhyrchu.
Mwy ar y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (gwefan allanol).
Help gyda thlodi tanwydd
Nyth ydi cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru sy’n anelu i helpu pobl yng Nghymru i leihau effaith eu biliau tanwydd.
Bydd Nyth yn cynnig ystod o gyngor yn ogystal ag asesiad llawn o ynni cartref a gwelliannau i’r cartref ar gyfer y cartrefi sy’n fwyaf ynni-aneffeithlon - heb unrhyw gost i chi.
Mae Nyth yn cynnig lot o help a chyngor am ddim a diduedd ar hawl i fudd-daliadau, gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff tanwydd priodol, rheoli arian, a chynlluniau ledled Cymru sy’n cynnig gwelliannau i'r cartref.
Ewch i wefan Nyth i gael mwy o wybodaeth..
Yddiriedolaeth Arbed Ynni
Mae'r Yddiriedolaeth Arbed Ynni (gwefan allanol) yn darparu cyngor am ddim a diduedd ar sut y gallwch arbed arian drwy ddod yn fwy ynni effeithlon.
Fe allan nhw ddweud wrthoch chi hefyd am unrhyw grantiau y gallech eu cael i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref.
Dogfennau cysylltiedig
Canllaw Cymorth ar Dlodi Tanwydd (PDF, 1MB)