Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf
Mae'r Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn rhoi cefnogaeth i aelwydydd cymwys dalu eu biliau tanwydd y gaeaf.
Beth sydd ar gael?
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad o £200 tuag at dalu eu biliau tanwydd yn y gaeaf. Gall hyn gynnwys mesuryddion rhagdalu a systemau oddi ar y grid, fel gwres canolog olew a nwy propan (LPG).
Talebau Taliad y Swyddfa Bost
Mae ein cofnodion yn dangos bod 2,350 o bobl sy’n gymwys ar gyfer taliad o £200 gan Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf heb wneud cais eto.
I helpu i wneud yn siŵr fod cymaint o bobl â phosibl yn derbyn yr hyn sydd ar gael iddyn nhw, byddwn yn anfon talebau Taliad y Swyddfa Bost i’r rhai sy’n gymwys am daliad.
How to collect your payment
Os ydych yn derbyn taleb Taliad y Swyddfa Bost, bydd gennych fis o’r dyddiad sydd ar y llythyr i gasglu eich taliad o’r swyddfa bost.
Bydd angen i chi fynd á’r llythyr gyda chi gan y bydd arno god bar unigryw a bydd angen i chi fynd ag un o’r canlynol hefyd:
- unrhyw brawf adnabod gyda llun (fel pasbort neu drwydded yrru)
- eich bil treth y Cyngor neu unrhyw fil cyfleustodau arall
Nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion banc i dderbyn taliad trwy lythyr Taliad y Swyddfa Bost.
Pwy sy’n gymwys am y cynllun?
Mae’r cynllun ar gael i aelwyd lle:
- mae’r sawl sydd wedi’i enwi ar y cyfrif treth y cyngor neu eu partner yn derbyn budd-dal cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023
- nad yw’r sawl sydd wedi’i enwi ar y cyfrif treth y cyngor neu eu partner yn derbyn budd-dal cymwys, ond bod unigolyn sy’n gymwys yn byw gyda nhw
- mae preswylydd yn byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth a’i fod yn gyfrifol am dalu ynni
Gweld y budd-daliadau cymwys
Y budd-daliadau cymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yw:
- Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credydau Treth Gwaith
- Credydau Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwyr (gan gynnwys y rhai sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwyr ond yn sgil y rheolau budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd, nid ydynt yn ei dderbyn fel budd-dal arian, h.y. mae ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr)
- Math newydd o Lwfans Cyfrannol / Lwfans Ceisio Gwaith
- Math newydd o Lwfans Cyfrannol / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn y Rhyfel
Gweld y meini prawf ar gyfer unigolyn cymwys
Mae unigolyn yn bodloni’r diffiniad o berson cymwys os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’n byw yng nghartref y preswylydd fel y prif gartref
- mae’n blentyn neu’n oedolyn sy’n ddibynnol ar y preswylydd (neu eu partner)
- mae’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn y Rhyfel
Ni fyddai taliad yn cael ei wneud os yw:
- yr eiddo’n wag neu’n ail gartref
- yr eiddo’n cael ei ddefnyddio’n fasnachol e.e. llety gwyliau
Sut i wneud cais
Bydd angen i breswylwyr nad oes posib’ gwneud taliad awtomatig iddynt ymgeisio am daliad Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ar-lein.
Fe wnawn ni wneud taliad yn awtomatig ac ni fydd angen i chi ymgeisio os ydych chi’n bodloni’r ddau bwynt canlynol:
- rydych mewn aelwyd sy’n derbyn cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
- mae gennym ni fanylion eich cyfrif banc eisoes (un ai o dalu i’r Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol neu o gais a wnaed drwy’r Cynllun Cymorth Costau Byw)
Gallwch gofrestru i dalu treth y cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, a chyn belled bod y taliad debyd uniongyrchol cyntaf wedi’i wneud, mi fyddwch yn derbyn taliad awtomatig.
Bydd angen i chi ddarparu’ch Rhif Yswiriant Gwladol i wneud cais i’r cynllun hwn. Ni allwn ddweud wrthych beth yw’ch Rhif Yswiriant Gwladol.
Os na allwch ddod o hyd i’ch Rhif Yswiriant Gwladol, gallwch gysylltu â Refeniw a Thollau EM (RaThEM). Os byddwch yn eu ffonio, gall gymryd hyd at 15 diwrnod i gael llythyr yn cadarnhau’ch Rhif Yswiriant Gwladol.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ganfod Rhif Yswiriant Gwladol a gollwyd (gwefan allanol)
Gwneud cais am y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ar-lein
Bydd y ffenest’ i wneud cais am y cynllun hwn yn cau am 5pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.
Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen mwy o wybodaeth arnom am eich cais.
Os na fyddwch wedi derbyn taliad neu wedi clywed gennym ni ynghlwm â’ch cais o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni.
Ceisiadau llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd £200 un ai’n cael ei anfon i’r cyfrif rydych chi wedi darparu manylion ar ei gyfer neu’n cael ei gredydu i’ch cyfrif treth y cyngor (bydd hyn yn dibynnu ar ba opsiwn rydych yn ei ddewis ar y ffurflen gais).
Ceisiadau aflwyddiannus
Bydd ceisiadau’n cael eu gwrthod os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys. Ni allwch apelio ond gallwch ymgeisio eto os yw eich amgylchiadau’n newid.
Rhagor o wybodaeth
Nid oes treth ar daliadau Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ac ni fyddant yn effeithio ar unrhyw hawl i Fudd-daliadau Lles.
Gwrthod taliad awtomatig
Os hoffech chi wrthod taliad awtomatig, dychwelwch y taliad atom ni ac anfonwch e-bost at budd-daliadau@sirddinbych.gov.uk yn nodi rhif eich Cyfrif Treth y Cyngor ac nad ydych eisiau’r taliad.
Help arall sydd ar gael
Os ydych yn dioddef caledi ariannol, efallai y bydd gennych hawl i gael y cymorth canlynol:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a'r y tudalennau canlynol: