Coronafeirws: adnoddau cymunedol
Mae gwaith wedi cael ei gynnal gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych gyda mewnbwn gan Gynghorwyr Sir a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ddod ynghyd a mapio'r adnoddau sydd ar gael yn ystod y sefyllfa Covid-19 ar draws Sir Ddinbych.
Mae'r pecyn adnodd cymunedol yn cynnwys gwybodaeth am fusnesau a grwpiau newydd lleol ar draws Sir Ddinbych sy'n cynnig cymorth, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaethau danfon bwyd, gwasanaethau siopa bwyd a gwasanaethau cynnal. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i nifer o asiantaethau cymorth a rhwydweithiau sy'n gweithredu’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae'r pecyn grantiau cymorth brys Covid-19 yn cynnwys gwybodaeth am gyllid grant sydd ar gael ar gyfer grwpiau elusennol sy’n cefnogi eu cymunedau lleol ac unigolion sy’n wynebu caledi ariannol.
Rhannwch yr adnodd gyda’ch ffrindiau, perthnasau, cymdogion a chymuned.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei diweddaru yn rheolaidd. Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu ddolenni sy’n ddefnyddiol ar gyfer trigolion, anfonwch e-bost at datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.
Pecynnau adnoddau cymunedol
Canllawiau ymateb cymunedol Covid-19
Mae’r adain hon yn casglu ynghyd ffynonellau allweddol o ganllawiau a gwybodaeth i’r rhai sy’n ymateb i bandemig Covid-19 drwy weithgaredd gwirfoddol a chymunedol.
Rhoddir dolenni i’r we lle bo modd fel bydd yr wybodaeth yn gallu bod yn gyfredol.
Canllawiau ar Arferion Diogel ac Effeithiol
Mae dogfen ganllaw a gynhyrchwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) wedi ei chreu i helpu gwirfoddolwyr a chydlynwyr gwirfoddolwyr cymunedol sy’n ymateb i Covid-19.
Mae’r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth am: ddiogelu, rheoli gwirfoddolwyr, rolau a awgrymir ar gyfer gwirfoddolwyr, gwirio DBS, a chynghorion ar gyfer cychwyn gweithredu cymunedol newydd.
Ymweliad wcva.cymru (gwefan allanol)
Cofrestru fel gwirfoddolwr yn Sir Ddinbych
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli fel rhan o’r ymateb i Covid-19 yn Sir Ddinbych gofrestru gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) er mwyn cael eu cysylltu â chyfle addas. Mae hon yn broses hawdd ac am ddim sy’n helpu i ddarparu strwythurau diogelu perthnasol ac yn helpu i symleiddio cydlynu gwirfoddolwyr.
Gall gwirfoddolwyr gofrestru ar-lein drwy’r ddolen hon i
wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd).
Y dewis gorau yw cofrestru ar-lein, ond os na allwch gael mynediad at y cofrestru ar-lein, e-bostiwch eich manylion i
covid19@dvsc.co.uk
Cofrestru eich grŵp/sefydliad gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd)
Argymhellir fod pob grŵp gwirfoddol a chymunedol sy’n ymateb i Covid-19 yn Sir Ddinbych yn ymuno â CGGSDd. Gall CGGSDd eich cefnogi gyda recriwtio gwirfoddolwyr, gwirio DBS a chanllawiau ar bethau fel arian a llywodraethu.
Er mwyn cofrestru gyda CGGSDd, rhaid i grwpiau
ymweld â thudalen ymaelodi CGGSDd ar-lein.
Os ydych chi'n sefydliad nad yw'n gymwys fel Aelod o'r DVSC, ond sydd â diddordeb mewn cefnogi DVSC, gwirfoddolwyr, gwirfoddoli a'r trydydd sector yn Sir Ddinbych, fe'ch gwahoddir i ddod yn Bartner.
Llenwch y ffurflen gais hon. Yna cysylltir â chi pan fydd eich partneriaeth yn fyw.
Strwythur Taliadau Aelodau CGGSDd
Incwm Blynyddol y Sefydliad
|
Prisiau 2019-2020
|
£0 - £50,000
|
Am ddim
|
£50,001 - £250,000
|
£30.00
|
£250,001 - £1 miliwn
|
£60.00
|
Dros £1 miliwn
|
£90.00
|
Cael cyflenwadau i gartrefi sy’n ynysu
Un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r rhai sy’n ynysu yw cael cyflenwadau i’r cartref e.e. siopa bwyd. Lle bo modd, anogir pobl i ofyn i deulu, ffrindiau neu gymdogion y gallant ymddiried ynddynt helpu. Lle nad yw hyn yn bosibl, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig helpu. Ond, er diogelwch ariannol (neu ddiogelwch ariannol eich anwyliaid), dilynwch y cynghorion hyn i warchod rhag cam-drin ariannol, dwyn, ayyb.
- Dylid gwneud taliadau (boed hynny ymlaen llaw neu yn ad-daliadau) drwy systemau cyfnewid electronig lle bo modd (e.e. trosglwyddiad banc, taliadau cerdyn dros y ffôn ayyb.) fel y gellir eu holrhain a’u cadw ar wahân i’r weithred o ddanfon.
- Dylid osgoi cyfnewid arian parod ar bob cyfrif (er mwyn lleihau’r posibilrwydd o ladrad a heintiad hefyd).
- Osgowch roi eich cerdyn banc a’ch rhif PIN i rywun, er mwyn eich amddiffyn chi a’r gwirfoddolwr sy’n eich cefnogi.
- Dylai gwirfoddolwyr dynnu lluniau ar eu ffonau symudol i’w rhannu gyda’r cartref (neu’r sefydliad maen nhw’n gwirfoddoli iddo) er mwyn creu tystiolaeth o’r hyn a brynwyd, y costau a’r danfon.
- Os yw’r preswylydd yn dioddef dryswch neu broblemau gyda'u ffôn, gallai aelod penodol o'r teulu dderbyn tecst gyda lluniau ynghlwm er mwyn diogelu rhag risgiau ariannol. Pan na fydd y preswylydd yn gallu gwneud taliad electronig, efallai y gallai aelod penodol o’u teulu wneud hynny ar eu rhan.
Efallai y gallwch ffonio siop leol i osod archeb a thalu dros y ffôn. Mae nifer o siopau bychan yn gallu gwneud taliadau electronig. Gall gwirfoddolwyr lleol wedyn fynd i gasglu’r siopa a’i ddanfon. Mae Sir Ddinbych wedi creu rhestr o adnoddau cymunedol, sy’n cynnwys busnesau lleol sy’n gallu derbyn taliadau dros y ffôn neu ddanfon.
Adnoddau cymorth