Lleoliadau addysg
- Ysgolion ADY
- Colegau
- Ysgolion cynradd
- Ysgolion uwchradd
Senario 1
Mae gyrrwr tacsi/bws mini yn dal covid-19 ac nid yw'n gallu cynnal cludiant y bore (heb fod gyrrwr arall ar gael).
Gweithred
Gweithredwr i hysbysu rhieni (gall hyn fod gyda'r nos), cynorthwyydd teithwyr a chludiant ysgol cyn gynted â phosibl. Dim cludiant nes bydd rhybudd pellach.
Senario 2
Mae gyrrwr tacsi/bws mini yn dal covid-19 ac nid yw'n gallu cynnal cludiant y prynhawn (heb fod gyrrwr arall ar gael)
Gweithred
Gweithredwr i hysbysu cludiant ysgol a chynorthwyydd teithwyr cyn gynted â phosibl. Cludiant ysgol i ddarparu gyrrwr wrth gefn ar gyfer siwrnai prynhawn neu gerbyd i redeg ddwywaith i gasglu dysgwyr. Os nad oes gyrrwr wrth gefn ar gael, dylid cysylltu â rhieni/gofalwyr i gasglu o'r lleoliad addysg. Dim cludiant nes bydd rhybudd pellach, rhieni i gael gwybod.