Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd 

Bydd y Gronfa yn darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd naill ai wedi profi / a fydd yn parhau i gael effaith negyddol sylweddol oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid-19.

Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021, a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau oedd ar waith o ddechrau'r cyfnod.

Beth sydd ar gael?

Mae grant ar gael i gynorthwyo busnesau sy'n seiliedig ar nifer y staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) a gyflogir ganddynt o 1 Mai 2021. Dyma nifer y swyddi llawn amser yn eich sefydliad. Mae swydd amser llawn yn un 30 awr neu fwy yr wythnos; mae swydd ran-amser yn un 15 awr yr wythnos o leiaf; mae dwy swydd ran-amser yn cyfrif fel un swydd gyfwerth ag amser llawn. Nid ydym yn derbyn contractau dim oriau fel swyddi parhaol cymwys.

Gall y ffigur FTE gynnwys y perchnogion a all fod yn tynnu arian etc, fodd bynnag, rhaid i unrhyw gyflogeion gael eu talu drwy TWE.

Unig fasnachwyr yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i dros 60% ostyngiad mewn trosiant
Nifer y staff FTECyfanswm Grant
1  £1,000
Grantiau penodedig ar gael ar gyfer busnesau sydd wedi profi gostyngiad o dros 60% mewn trosiant o ganlyniad i orfod cau a chyfyngiadau
Nifer y staff FTECyfanswm Grant
1 i 3  £2,500
4 i 9  £5,000
Busnesau sydd ag mwy na 60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021
Nifer y staff FTECyfanswm Grant
1 i 3  £2,500
4 i 9  £5,000
Grantiau ar gael ar gyfer mannau digwyddiadau ac atyniadau dynodedig lle profwyd gostyngiad o dros 60% o effaith ar drosiant
Nifer y staff FTECyfanswm Grant
1 i 3  £3,500
4 i 9  £7,000
Grantiau penodedig ar gael i fusnesau a orfodwyd i gau drwy gydol Gorffennaf ac Awst 2021
Nifer y staff FTECyfanswm Grant
1 i 3  £5,000
4 i 9  £10,000

Cymhwysedd ar gyfer y grant

Gall busnesau sy'n bodloni'r meini prawf canlynol fod yn gymwys am grant

  • Roedd y busnes yn masnachu cyn 4 Rhagfyr 2020
  • Rhaid bod y busnes yn gweithredu yng Nghymru
  • Rhaid i fusnesau fod ag o leiaf uno’r canlynol
  • Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) gan CThEM
  • Rhif Cofrestru TAW neu Dystysgrif Eithrio o TAW (os yw’n berthnasol)
  • Rhif Cofrestru’r Cwmni (os yw’n berthnasol)
  • Rhif trwydded cerbyd hacni neu rif trwydded minicab preifat (os yw'n berthnasol)

Mae’n rhaid i fusnesau ddiwallu un o’r canlynol:

  • Y busnes wedi cael/yn mynd i gael ei orfodi i aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021 ac wedi profi gostyngiad mewn trosiant o dros 60% yn ystod y cyfnod o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau parhaus.
  • Mae’r busnes yn fan digwyddiadau neu’n atyniad yr effeithiwyd yn ddifrifol arno oherwydd y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol parhaus ac wedi profi gostyngiad mewn trosiant o dros 60% yn y cyfnod o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau parhaus
  • Busnesau eraill sydd wedi profi dros 60% o ostyngiad mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac wedi’u gwahardd rhag agor dan do cyn 17 Mai 2021.
  • Busnes cadwyn gyflenwi sy’n cynhyrchu mwy na 60% o’i refeniw gwerthiannau o fusnesau sy’n dod o fewn y 3 categori uchod ac sydd wedi profi gostyngiad mewn trosiant o fwy na 60% yn ystod y cyfnod.
  • Cwmni cyfyngedig â throsiant o rhwng £10,000 ac £85,000
  • Unig fasnachwyr / partneriaethau â throsiant sy'n llai na £85,000
  • Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm (mwy na 50%)
  • Rhaid i fusnesau sy’n derbyn cymorth geisio cadw eu cyflogeion am 12 mis
  • Dim ond un cais fesul busnes (os oes sawl safle dan 1 busnes, yna dylid eu cyfuno'n un cais)
  • Dylai busnesau fod wedi bod yn masnachu hyd at 4 Rhagfyr pan ddaeth y cyfyngiadau newydd i rym yng Nghymru - efallai y bydd angen darparu tystiolaeth i ddangos hyn
  • Ni all cyfanswm grantiau cymorth Covid-19 (gan gynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) fod yn fwy nag 80% o drosiant ymgeisydd am flwyddyn fasnachu nodweddiadol.

Pwy sydd ddim yn gymwys ar gyfer y grant hwn

Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os:

  • Yw’r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm os ydych chi'n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
  • Nad yw eich trosiant wedi gostwng o leiaf 60% o'i gymharu â'r cyfnod Gorffennaf / Awst yn 2019 neu gyfnod masnachu cyfatebol os sefydlwyd y busnes ar ôl y dyddiad hwnnw
  • Ydych chi'n gymwys am gymorth gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol - Cymorth i Weithwyr Llawrydd (a lansiwyd ar 17 Mai 2021).
  • Ydych chi wedi derbyn cyllid tuag at gostau ar gyfer yr un cyfnod o gronfeydd fel "Cronfa Cymru Egnïol" neu'r "Gronfa Cadernid Cymunedau”.
  • Yw cyfanswm y grantiau cymorth Covid-19 a gawsoch (gan gynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) yn fwy nag 80% o'ch trosiant ar gyfer blwyddyn fasnachu nodweddiadol (cyn Covid-19 neu yr amcangyfrifwyd heb effaith Covid-19 os sefydlwyd eich busnes ar ôl Mawrth 2019).

Sut i wneud cais

Daeth cais am Gymorth Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd i ben am 5pm ar 9 Awst 2021.

Ni dderbynnir unrhyw geisiadau hwyr.

Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais

Gwneir penderfyniadau ynghylch ceisiadau ar sail y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig a gwybodaeth o wiriadau a gynhelir ar ffynonellau data busnes arall. Os rhoddir data anghyflawn neu anghywir, neu os yw’r dystiolaeth a ddarperir yn annigonol, ni fyddwn yn prosesu’r ffurflen a gwrthodir y cais.

Rydym yn anelu at brosesu ceisiadau am grant o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl dystiolaeth/gwybodaeth ategol sy'n ofynnol.

Ceisiadau llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn talu’r grant yn llawn i’r cyfrif banc a nodwyd gennych.

Ceisiadau aflwyddiannus

Byddwn yn anfon e-bost atoch i adael i chi wybod os yw eich cais yn aflwyddiannus a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio.

Mwy gwybodaeth

Cofiwch y gallai'r Awdurdod Lleol ofyn i chi ad-dalu’r grant yn llawn neu’n rhannol os daw tystiolaeth i’r amlwg i ddangos nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.

Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin

Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin Cronfa Cadernid Economaidd (gwefan allanol)