Coronafeirws: Taliad hunan-ynysu
Os cysylltwyd â chi gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) a chael gwybod bod rhaid hunanynysu, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.
Rydym ar hyn o bryd yn ymdrin â nifer fawr o geisiadau. Os ydych wedi gwneud cais am daliad hunanynysu ym mis Mawrth 2022 a heb dderbyn taliad neu ateb gennym, fe fydd eich cais yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn gwneud cais newydd, sicrhewch eich bod yn darparu’r holl dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn osgoi unrhyw oedi gyda’r taliad.
Mae taliadau hunan-ynysu yn drethadwy. Os ydych yn gweithio bydd rhaid i chi dalu treth ar y taliad os ewch dros y lwfans personol di-dreth. Bydd eich cod treth yn newid er pwrpas casglu’r dreth. Ni fyddwch yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar y taliad. Os ydych yn hunan gyflogedig bydd rhaid i chi adrodd y taliad ar eich ffurflen dreth hunan asesiad. Ni ddylai effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.
Taliad Cymorth Hunanynysu
Efallai y bydd gennych hawl i daliad os ydych yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Dywedwyd wrthych i hunanynysu gan
- wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru fel achos indecs (yn cynnwys trwy gofrestru prawf LFD positif )
- cynghorwyd eich plentyn i ynysu gan y Gwasanaeth Profi,Olrhain,Diogelu o ganlyniad i brawf positif
- Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- Rydych chi’n derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Bensiwn Credyd
Rieni a gofalwyr plant sy'n hunanynysu o addysg neu gofal plant
Mae cymhwysedd bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Mae'r plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant, ysgol neu coleg addysg bellach sy'n sefydlu hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 25 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth);
- Gofynnwyd i'r plentyn hunanynysu gan TTP neu gofynnwyd iddo hunanynysu am 10 diwrnod neu fwy gan lleoliad gofal plant yr ysgol neu'r coleg addysg bellach o ganlyniad i achos mewn ysgol, gofal plant neu leoliad addysg bellach; A
- Mae rhieni neu ofalwyr yn bodloni meini prawf y prif gynllun, sef:
- yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig;
- yn methu gweithio gartref a byddant yn colli incwm o ganlyniad; A
- (y ceisydd neu ei bartner) yn derbyn ar hyn o bryd, Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.; Neu
- Mae'r cais yn cael ei dderbyn o dan y cynllun dewisol.
Taliadau Disgresiwn
Efallai y bydd gennych hawl i daliad os ydych yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Dywedwyd wrthych i hunanynysu gan:
- wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru fel achos indecs (yn cynnwys trwy gofrestru prawf LFD positii)
- cynghorwyd eich plentyn i ynysu gan y Gwasanaeth Profi,Olrhain,Diogelu o ganlyniad i brawf positif
- Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- Nid ydych yn derbyn:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Bensiwn Credyd
- Byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra eich bod yn hunanynysu
Sut i wneud cais
Daliad hunan-ynysu neu yn ôl ddisgresiwn
Dim ond ar-lein y gallwch wneud cais am daliad hunan-ynysu neu yn ôl ddisgresiwn.
Gwneud cais am daliad hunan-ynysu neu yn ôl ddisgresiwn ar-lein
Rieni a gofalwyr plant sy'n hunanynysu o addysg neu gofal plant
Gwneud cais am daliad hunan-ynysu i rieni a gofalwyr plant sy'n hunanynysu o addysg neu gofal plant