Ystadegau a data: Strydoedd glân a thaclus

Mae Sir Ddinbych yn perfformio'n dda iawn yn y mesurau glendid strydoedd cenedlaethol.

Yn 2013, sgoriodd Sir Ddinbych 82.8 ar y Mynegai Glanweithdra.  Sgôr cyfartalog ardaloedd eraill o Gymru oedd 72.5.

Barn ein trigolion

Mae canlyniadau arolwg preswylwyr 2013 yn dangos bod:

  • 73% o'r preswylwyr yn fodlon ar lendid cyffredinol y strydoedd yn eu hardal leol.  Roedd 18% o'r rhain yn fodlon iawn.
  • 60% o'r preswylwyr yn credu mai'r broblem fwyaf ar eu strydoedd yw baw cŵn.
  • 74% o'r preswylwyr yn fodlon ar lendid canol y dref agosaf.  Dywedodd 16% o'r rhain eu bod yn fodlon iawn.
  • 59% o'r preswylwyr yn credu mai'r broblem fwyaf yng nghanol eu tref agoaf yw cyflwr ac edrychiad adeiladau a blaenau siopau.
  • 48% o'r preswylwyr yn credu mai baw ci yw'r broblem lendid fwyaf yng nghanol eu tref agosaf.