Crwneriaid sydd yn cofnodi ac yn ymchwilio i farwolaethau sydyn, annisgwyl a threisgar. Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Dwyrain a Chanol) sy’n cynnwys Sir Ddinbych, Conwy, Wrecsam a Sir y Fflint, yw Mr John Gittins LL.B (Anrh) sy’n gyfreithiwr.
Nid adroddir pob marwolaeth i’r crwner: yn y rhan fwyaf o achosion, gall Meddyg Teulu neu ddoctor ysbyty roi Tystysgrif Feddygol o achos marwolaeth fel y gellir ei chofrestru gan y cofrestrydd.
Pryd y bydd a wnelo crwner â’r broses?
Dylid adrodd am farwolaeth wrth y crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu ag achos rhesymol dros amau bod honno’n farwolaeth:
- o ganlyniad i wenwyn, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;
- a ddigwyddodd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, p'un ai a achoswyd yn fwriadol ai peidio;
- sy’n gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn feddygol neu debyg ei natur;
- a ddigwyddodd o ganlyniad i hunan-niwed, (gan gynnwys methiant gan y sawl a fu farw i gadw ei fywyd ei hun) boed yn fwriadol neu fel arall;
- a ddigwyddodd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod, neu y gellir ei briodoli i, gyrfa waith y sawl a fu farw;
- a ddigwyddodd o ganlyniad i ddamwain hysbysadwy, gwenwyn, neu afiechyd;
- a ddigwyddodd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant o ran gofal gan berson arall;
- a oedd fel arall yn annaturiol.
Dylai'r crwner gael gwybod hefyd os:
- digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu fel arall yng ngharchar y wladwriaeth - o ba bynnag achos;
- na fu ymarferydd meddygol i weld yr ymadawedig ar unrhyw adeg yn y 14 diwrnod cyn y farwolaeth a bod dim ymarferydd meddygol ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth;
- na wŷr neb pwy yw’r ymadawedig;
- nad yw’n hysbys beth oedd achos y farwolaeth.
Pan fydd marwolaeth wedi ei hadrodd wrth y crwner bydd yn rhaid i’r cofrestrydd aros i’r crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Gall yr ymholiadau hyn gymryd amser, felly cymeradwyir cysylltu â swyddfa’r crwner cyn gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer angladd.
Beth fydd y crwner yn ei wneud?
Bydd crwneriaid yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos fod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth ac fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.
Cwestau
Cynhelir cwest i gofnodi:
- Pwy oedd yr ymadawedig
- Pryd, ble a sut y digwyddodd achos meddygol y farwolaeth
Pan ddeuir i gasgliad, bydd y crwner yn cofnodi’r manylion sydd eu hangen er mwyn cofrestru’r farwolaeth.
Nid yw cwest yn penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol ar ran rhywun a enwir.
Cwestau sydd ar y gweill
Dewiswch ddyddiad i weld pa gwestau sy’n digwydd ar y diwrnod hwnnw:
Mae’n anghyfreithlon gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu lluniau o fewn Ystafell y Llys neu yn adeilad y Llys.
Dydd Iau 23 Tachwedd 2023
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Hazel Pearson
- Oed: 79
- Lle a dyddiad marwolaeth: Wrexham Maelor, 30 Tachwedd 2021
- Amser y cwest: 10am
Dydd Mawrth 28 a Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Robert Wyn Jones
- Oed: 65
- Lle a dyddiad marwolaeth: Glan Clwyd, 17 Gorffennaf 2019
- Amser y cwest: 10am
Dydd Iau 30 Tachwedd 2023
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
James Owen Campbell
- Oed: 37
- Lle a dyddiad marwolaeth: Colwyn Bay, 13 Mai 2022
- Amser y cwest: 10am
Annie-Jo Mountcastle - Gwrandawiad Cyn Cwest
- Oed: 9 mis
- Lle a dyddiad marwolaeth: Llanfair Talhaiarn, 17 Tachwedd 2017
- Amser y cwest: 2pm
Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Katarzyna Anna Jozwiak
- Oed: 52
- Lle a dyddiad marwolaeth: Royal Stoke, 21 Gorffennaf 2023
- Amser y cwest: 10am
Arthur Jones
- Oed: 90
- Lle a dyddiad marwolaeth: Ysbyty Yr Wyddgrug, 1 Awst 2023
- Amser y cwest: 11am
Amanda Maxine Muirhead
- Oed: 61
- Lle a dyddiad marwolaeth: Glan Clwyd, 6 Ebrill 2023
- Amser y cwest: 12 hanner dydd
Walter Thomas Sprigings
- Oed: 90
- Lle a dyddiad marwolaeth: Bodelwyddan, 6 Awst 2022
- Amser y cwest: 2pm
Dydd Llun 4 i ddydd Iau 7 Rhagfyr 2023 (4 diwrnod)
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Catherine Lisa Jones
- Oed: 35
- Lle a dyddiad marwolaeth: Ysbyty Maelor Wrecsam, 10 Tachwedd 2016
- Amser y cwest: 10am
Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023
Lleoliad cwest: Cwrt y Crwner, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Calem Rhys Humphreys
- Oed: 34
- Lle a dyddiad marwolaeth: Llandrillo yn Rhos, 8 Gorffennaf 2023
- Amser y cwest: 10am
Georgina Woods
- Oed: 88
- Lle a dyddiad marwolaeth: Ysbyty Maelor Wrecsam, 9 Gorffennaf 2023
- Amser y cwest: 11am
Karen Davenport
- Oed: 54
- Lle a dyddiad marwolaeth: Wrecsam, 6 Mawrth 2023
- Amser y cwest: 12 hanner dydd
Wendy Jones
- Oed: 87
- Lle a dyddiad marwolaeth: Ysbyty Maelor Wrecsam, 28 Ebrill 2023
- Amser y cwest: 2pm
Carole Roberts
- Oed: 65
- Lle a dyddiad marwolaeth: Cyffordd Llandudno, 1 Ebrill 2023
- Amser y cwest: 3pm
Cwestau trysor
Nid oes dim cwestau trysor wedi eu hamserlennu ar hyn o bryd.
Cofrestr Marwolaethau
Os penderfyna’r crwner bod angen cynnal cwest, ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes bod y cwest wedi ei gwblhau, fodd bynnag rhoddir Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro gan y crwner hyd nes y gellir cofrestru’n llawn.
Wedi’r cwest, bydd y crwner yn cofrestru'r farwolaeth gyda chofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Dyma ble mae swyddfeydd cofrestru Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog):
Swyddfa y Crwner
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:
Mr John Gittins
Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi,
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Ebost: cwrner@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 708 047