30 awr o ofal plant wedi ei ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhieni sy’n gweithio yn gallu cael 30 awr o ofal plant wedi ei ariannu bob wythnos o fis Ionawr 2019 ymlaen trwy Gynnig Gofal Plant Cymru.
Bydd modd i rieni a fyddai wedi bod yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn nhymor yr haf gyflwyno eu ceisiadau o 10 Awst 2020, er mwyn manteisio ar y Cynnig o ddechrau tymor yr hydref ym mis Medi. Dyddiad geni rhwng 01/09/2016 ac ar neu cyn 19/04/2017.
Bydd rhieni sydd â phlentyn a fydd yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn nhymor yr hydref yn gallu gwneud cais o1 Medi 2020 er mwyn manteisio ar y Cynnig o’r diwrnod y caiff eu cais ei gymeradwyo. Dyddiad geni rhwng 01/09/2016 ac ar neu cyn 31/08/2017.
Gwiriwch os ydych yn gymwys a sut i wneud cais
Gallwch wirio os ydych yn gymwys a gwneud cais am lwfans gofal plant (unai 20 awr neu 17.5 awr) ar lein ar wefan Cyngor Sir y Fflint (Mae Sir y Fflint yn prosesu ceisiadau ar ran Sir Ddinbych)
Gwiriwch os ydych yn gymwys a gwnewch gais am lwfans gofal plant (gwefan allanol)
I siarad â rhywun ynglŷn â'ch cais am lwfans gofal plant, gallwch gysylltu â Thîm Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint ar 01352 703930.
Gwybodaeth ar sut i wneud cais am addysg gynnar - 10 awr gofal plant
Gwybodaeth am lefydd meithrin
Beth sydd ar gael
Mae’r cynnig hwn yn darparu gofal plant a ariennir gan y llywodraeth sy’n cynnwys Darpariaeth Hawl Bore Oes a Meithrin y Cyfnod Sylfaen am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Gallai plant cymwys fod â hawl i dderbyn hyd at 20 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth yn ystod y tymor ar ben y 10 awr a ddarperir eisoes gan y Cyfnod Sylfaen bob wythnos.
Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant sy’n addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed hynny o fewn y sir neu y tu allan i’r sir, gyda chytundeb y darparwr a'r awdurdod lleol. Nid oes raid i’r gofal plant gael ei ddarparu gan yr un darparwr â darparwr y Cyfnod Sylfaen.
Hawl
Cynllun | Hawl Dysgu | Lwfans Gofal Plant |
Hawl Bore Oes |
10 awr |
20 awr |
Meithrin Cyfnod Sylfaen (ysgol) |
12.5 awr |
17.5 awr |
Gwyliau ysgol
Mae 39 wythnos yn ystod y tymor sy’n golygu bod y 9 wythnos arall o’r 48 wythnos a gynigir yn cael ei drin fel ‘darpariaeth y tu allan i’r tymor’ neu ‘ddarpariaeth yn ystod gwyliau’. Yn ystod y 9 wythnos o ddarpariaeth yn ystod y gwyliau, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn nodi pa rai o’r 14 wythnos o ddarpariaeth y tu allan i’r tymor sy’n cael eu dynodi fel 9 wythnos o ddarpariaeth yn ystod gwyliau er mwyn rhoi hyblygrwydd i rieni mewn gwahanol alwedigaethau, megis y rheiny sy’n gorfod gweithio dros wyliau’r haf neu'r Nadolig. Fodd bynnag nid oes modd i rieni ‘ymestyn’ eu hawl dros wythnosau na throsglwyddo oriau sydd heb eu defnyddio ar draws wythnosau.
Hawl yn ystod gwyliau
- Bydd gan blentyn sy’n gymwys i dderbyn y cynnig am dri tymor hawl i dderbyn i fyny at 9 wythnos o ofal plant gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.
- Bydd gan blentyn sy’n gymwys i dderbyn y cynnig am ddau dymor hawl i dderbyn i fyny at 6 wythnos o ofal plant gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.
- Bydd gan blentyn sy’n gymwys i dderbyn y cynnig am un tymor hawl i dderbyn i fyny at 3 wythnos o ofal plant gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.
Gall plant a anwyd yn ystod tymhorau’r hydref neu’r gwanwyn fod yn gymwys i dderbyn y cynnig am fwy na blwyddyn. Mewn achosion fel hyn rhoddir dyraniad newydd ar gyfer darpariaeth yn ystod gwyliau iddynt am weddill yr amser y maent yn gymwys i dderbyn y cynnig ar ddechrau'r ail flwyddyn.
Pwy sy’n gymwys?
Bydd modd i blant cymwys fanteisio ar y cynnig o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
I fod yn gymwys am ofal plant wedi ei ariannu rhaid i chi ateb y meini prawf cymhwyso canlynol:
- Mae’ch plentyn rhwng 3 neu 4 oed
- Rydych yn byw yn Sir Ddinbych
- Rydych yn byw yn barhaol yng Nghymru
- Rydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac mae’r ddau riant yn gweithio mewn teulu 2 riant neu mae'r rhiant yn gweithio mewn teulu unig riant
-
Mae’n rhaid i chi fod yn ennill yr hyn sy’n gyfwerth i o leiaf 16 awr yr wythnos o isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol, ond ni ddylech chi na’ch partner fod yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.
Mwy o wybodaeth i rieni
Dysgwch fwy ar wefan Lywodraeth Cymru (gwefan allanol).