Gwneud cais am nawdd y Blynyddoedd Cynnar - 10 awr o addysg wedi'i ariannu

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn gwneud cais

    I wneud cais am 10 awr o addysg wedi’i ariannu, bydd yn rhaid i chi:

    • wirio bod eich plentyn yn gymwys am 10 awr o addysg wedi’i ariannu
    • cadarnhau fod gan eich lleoliad gofal plant le ar gael i’ch plentyn dderbyn 10 awr o addysg wedi’i ariannu
    • darparu eich manylion
    • darparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad, gellir defnyddio cyfriflen banc, bil treth y cyngor, trwydded yrru neu fil cyfleustodau
    • darparu manylion eich plentyn,a chopi/llun o dystysgrif geni eich plentyn
  • A ydych wedi gwirio bod eich plentyn yn gymwys am 10 awr o addysg wedi’i ariannu?