Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn un o’n grwpiau chwarae partner, Cylchoedd Meithrin neu Feithrinfeydd Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol. 

Bydd modd i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg yn un o’r ardaloedd canlynol wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg o ddydd Mercher 7 Mehefin 2023:

  • Gallt Melyd
  • Dwyrain Prestatyn
  • De-orllewin Prestatyn

Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen Gofal Plant Dechrau'n Deg i’r ardaloedd canlynol:

  • rhannau o Dde a De-ddwyrain y Rhyl, o fis Rhagfyr 2023
  • rhannau o Ddyserth, Rhuddlan a Dinbych Canolog o fis Awst 2024

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg

Beth sydd ar gael?

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant am ddim bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad a gofrestrwyd i gyflwyno’r rhaglen Dechrau'n Deg.

Gellir defnyddio’r gofal plant o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair.

Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar bob sesiwn, ond fel arfer byddant yn:

  • 9am tan 11:30am
  • 1pm tan 3:30pm

Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Dewiswch dref i weld y lleoliadau gofal plant ble mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael:

Dinbych

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Ninbych yw:

  • Bumble Bees
  • Cylch Capel Seion (lleoliad iaith Gymraeg)
Prestatyn

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg ym Mhrestatyn yw:

  • Bodnant Bach
  • Clwb Penmorfa
  • Cylch Y Llys (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Tiny Tots
Y Rhyl

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn y Rhyl yw:

  • Beach House Day Nursery
  • Beach House Fun Club
  • Christ the Word nursery
  • Cool Cats
  • Cylch Dewi Sant (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Fun Days nursery
  • Hannah’s House
  • Happy Days
  • Little Acorns
  • Little Lambs at Emmanuel
  • Summer House

Sut i wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg

Nid oes modd gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg ar hyn o bryd.

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg yw datblygu a chefnogi’r holl bethau rydych eisoes wedi ei ddysgu i’ch plentyn. Mae’n gyfle i’ch plentyn ddod i arfer gyda chwarae mewn grŵp mwy, cymryd tro, gwneud ffrindiau a datblygu eu sgiliau sylw, meddwl a gwrando wrth archwilio a chael hwyl. Byddant yn dysgu caneuon newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.