Mae’r Tîm Gwledig yn helpu cymunedau i ymgysylltu â phobl ifanc leol. Mae’r tîm yn gweithio’n lleol i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc a chreu cyfleoedd wedi’u harwain gan y gymuned.
Mae’r tîm yn datblygu cyfleoedd ieuenctid sydd wedi’u teilwra i gymunedau gwledig.
Yn defnyddio ‘Branwen y Fan Wen’, ein cerbyd allgymorth mawr, rydym ni’n cynnal gwaith allgymorth a datgysylltiedig mewn cymunedau gwledig. Ein nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar bethau newydd a chymdeithasu’n lleol gyda’u cyfoedion mewn amgylchedd diogel. Rydym ni’n cefnogi ac yn grymuso cymunedau i sefydlu a rhedeg clybiau ieuenctid ac i ymgynghori gyda phobl ifanc ynghylch y ddarpariaeth a’r gweithgareddau yr hoffan nhw eu gwneud.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- clwb ieuenctid dros dro
- mynd i ddiwrnodau hwyl cymunedol
- helpu i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr lleol ac arweinwyr ifanc
- darparu cymorth parhaus i sefydlu a rhedeg clwb ieuenctid cynaliadwy