Gadewch i Ni Chwarae Allan – Gwyliau’r Pasg 

Mae sesiynau Gadewch i Ni Chwarae Allan yn gyfle i blant a phobl ifanc chwarae, gwneud ffrindiau a gwneud llanast mewn amgylchedd diogel yn eu cymuned leol. 

Bydd amrywiaeth o offer chwaraeon, chwarae, crefftau a rhannau rhydd ar y safle i blant eu defnyddio.

Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored sy’n golygu bod pobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn ar unrhyw adeg.

Mae’r sesiynau yn cael eu harwain gan y plant, felly nhw sy’n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, neu pa offer i’w ddefnyddio.

Plentyn â phaent ar wyneb a dwylo

 

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau? 

Mae sesiynau Gadewch i Ni Chwarae Allan i blant rhwng 6 a 12 oed.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn digwydd:

Dyserth

Cynhelir y sesiwn Beth am Chwarae Allan yn Dyserth ar Cae Chwarae King George V, Dyserth:

  • Dydd Llun 3 Ebrill 2023, o 10:30am i 12 hanner dydd
  • Dydd Iau 13 Ebrill 2023, o 10:30am i 12 hanner dydd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Cae Chwarae King George V

Parcio

Mae yna faes parcio bychan ger cae chwarae King George V

Meliden

Cynhelir y sesiwn Beth am Chwarae Allan yn Meliden ar Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd:

  • Dydd Mawrth 4 Ebrill 2023, o 2pm i 3:30pm
  • Dydd Mawrth 11 Ebrill 2023, o 2pm i 3:30pm

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd yw

Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd
Meliden
LL19 8PE

Parcio

Nid oes lle i barcio yng Nghaeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd

Prestatyn

Cynhelir y sesiwn Beth am Chwarae Allan yn Prestatyn ar Ffordd Parc Bodnant:

  • Dydd Mawrth 4 Ebrill 2023, o 10:30am tan 12 hanner dydd
  • Dydd Mawrth 11 Ebrill 2023, o 10:30am tan 12 hanner dydd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Ffordd Parc Bodnant

Y Rhyl

Cynhelir y sesiwn Gadewch i ni Chwarae Allan yn y Rhyl ar cae Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd ysgol Christchurch:

  • Dydd Llun 3 Ebrill 2023, o 2pm tan 3:30pm
  • Dydd Iau 13 Ebrill 2023, o 2pm tan 3:30pm

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio yng Nghanolfan y Dderwen

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Sut i gymryd rhan

Nid oes angen archebu lle i fynd i sesiwn Beth am Chwarae Allan, ond bydd rhaid i bob plentyn gofnodi ei enw pan fydd yn cyrraedd.

Os yw eich plentyn yn dod heb riant neu warcheidwad, gwnewch yn siŵr bod ganddynt fanylion cyswllt mewn argyfwng gyda nhw.

Cyfleusterau ar gyfer plentyn efo Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae’r sesiynau ar gyfer pawb. Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni er mwyn i ni wneud y sesiwn yn hygyrch.

Mwy o wybodaeth

Ewch i’r adran Ceidwaid Chwarae am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Ceidwaid Chwarae a digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal.