Archebu a chasglu llyfrau llyfrgell
Mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu dal ar gael i chi archebu eich llyfrau arlein neu ofyn i ni ddewis llyfrau ar eich cyfer.
Gallwch ymaelodi am ddim arlein.
Ymuno â Llyfrgelloedd Sir Ddinbych (gwefan allanol)
Fe wnawn ein gorau i gael y llyfrau rydych chi eu heisiau i chi cyn gynted â phosib.
Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell. Bydd y llyfrau sy’n cael eu dychwelyd yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr.
Sut i archebu llyfrau i'w casglu
Defnyddio ein catalog arlein
Os ydych yn chwilio am lyfr penodol, gallwch ei geisio trwy ein catalog arlein. Dyma’r ffordd orau i roi cais am lyfr neu awdur penodol. Fe all fod rhestr aros ar gyfer teitlau penodol – cewch eich ychwanegu at y rhestr. Pan fydd y llyfr ar gael i chi, fe wnawn gysylltu hefo chi i drefnu apwyntiad i chi ddod i’w gasglu.
Gweld ein catalog arlein (gwefan allanol)
Gadewch i ni ddewis llyfrau i chi
Os hoffech chi i ni ddewis llyfrau i chi o’n silffoedd, fe wnawn ein gorau i ddewis llyfrau sy’n cwrdd â’ch dymuniadau. Gallwn ddewis llyfrau i oedolion a phlant, bydd y dewis o stoc yn gyfyng, a bydd uchafswm o 10 llyfr ar bob cerdyn llyfrgell.
Archebu arlein o’r gwasanaeth archebu a chasglu llyfrau llyfrgell
Casglu eich archeb
Pan fydd eich llyfrau yn barod, fe wnawn ni gysylltu hefo chi i drefnu apwyntiad er mwyn i chi ddod i’w casglu. Os oes gennych anhawsterau symudedd, dywedwch wrth aelod o staff wrth i chi drefnu’r apwyntiad casglu ac fe wnawn ni ddod â’r bag at eich car y tu allan i’r llyfrgell.
Gwasanaeth Llyfrgell Cartref
Bydd ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau fel arfer i’w gwsmeriaid a byddwn yn cysylltu hefo chi.
Adnewyddu awtomatig a dim dirwyon
Mae’r holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg eisoes, ac unrhyw lyfrau rydych yn eu benthyg trwy Archebu a Chasglu yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig felly peidiwch â phoeni am angen eu dychwelyd ar amser, ac ni fydd unrhyw ddirwyon
Sut i gysylltu â ni