Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain

Bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl, a ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn amddiffyn 1,650 o eiddo yn Nwyrain y Rhyl rhag llifogydd arfordirol. 

Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roeddent i fod i orffen ym mis Rhagfyr 2022, fodd bynnag, mae’r cynllun wedi’i gwblhau’n gynnar. 

Bydd gosod 128,000 tunnell o amddiffynfeydd meini o flaen yr amddiffynfeydd morol presennol yn Nwyrain y Rhyl a’r 600 metr o forglawdd amddiffynnol a phromenâd sydd newydd eu hychwanegu yn amddiffyn yr ardal rhag stormydd presennol ac effaith newid hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i gwblhau’r gwaith hwn cyn gynted ag sy’n bosibl fel bod ein cymunedau’n cael eu hamddiffyn rhag unrhyw risg posibl o lifogydd.”

“Rydym yn hynod o falch bod y gwaith i ddiogelu cannoedd o breswylwyr a busnesau yn yr ardal rhag stormydd presennol a’r cynnydd yn y dyfodol o ran lefelau’r môr yn yr ardal wedi’i gwblhau ddeg mis yn gynnar. Mae hefyd yn braf nodi bod y prosiect wedi’i ddarparu ymhell o fewn y gyllideb.”

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o lwyddiant y cynllun.”

Y prif gontractwyr, Balfour Beatty, wnaeth mwyafrif y gwaith.

Roedd manteision cymunedol o’r cynllun yn cynnwys gât mynediad i’r traeth yn Old Golf Road i’w ddefnyddio ar benwythnosau, gwaith adnewyddu yn Splash Point a chyfrannu Grwynau i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ar gyfer eu hardal goffa ac i Gyfeillion y Cob ar gyfer safle Glan Morfa. 

Roedd manteision eraill yn cynnwys defnyddio cadwyn gyflenwi Gogledd Cymru ar gyfer danfon meini, sesiwn fentora dros y we gyda Sir Ddinbych yn Gweithio i helpu’r rhai sy’n chwilio am waith yn y diwydiant adeiladu a chyfraniadau i Fanc Bwyd Sussex Street.

Dywedodd Eddie Lundon, Cyfarwyddwr Rhanbarth Balfour Beatty: “Trwy fframwaith Scape, rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r cynllun hanfodol hwn yn ddiogel a llwyddiannus, a bydd yn amddiffyn nifer o gartrefi a busnesau yn Nwyrain y Rhyl.”

“Gan ddefnyddio ein profiad arfordirol helaeth, roeddem yn gallu cwblhau’r rhaglen yn gynnar, gan ddefnyddio cadwyn gyflenwi leol wrth wneud cyfraniad sylweddol a chynaliadwy i’r gymuned leol.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r llifogydd yng nghartrefi a busnesau’r Rhyl yn 2013 yn dal i fod yn ffres ym meddwl pobl a gyda newid hinsawdd, rydym yn gwybod bod digwyddiadau o’r fath yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Felly rwy’n falch o ddarparu cyllid i Gyngor Sir Ddinbych o'n Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol ar gyfer y cynllun sylweddol hwn i helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau ac isadeiledd rhag effaith llifogydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/amddifyn-yr-arfordir/dwyrain-y-rhyl/cynllun-amddiffyn-arfordir-dwyrain-rhyl.aspx


Cyhoeddwyd ar: 22 Chwefror 2022