Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar drigolion y sir i gydymffurfio â'r rheoliadau cyfnod clo sy'n cael ei gyflwyno yn y frwydr barhaus i atal y cynnydd mewn nifer achosion o coronafeirws ledled Cymru.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: "Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o glefyd coronafeirws ledled Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir bod angen cymryd camau brys i geisio osgoi mynd i gyfnod clo llwyr.

"Nawr bod gennym eglurder ar fanylion y cyfnod clo, mae angen i ni nawr sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan wrth weithio drwy'r cyfyngiadau.

"Rydym yn cydnabod yn llwyr y gallai'r syniad fod yn anodd i rai pobl, yn enwedig o ystyried yr aberth a wnaed gan bobl yn gynharach yn y flwyddyn, ond mae cydymffurfio'n hanfodol. Mae gwir angen i ni wneud hyn i geisio amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

"Ar ben y cyfyngiadau newydd, rhaid i ni hefyd barhau i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol, yn ogystal â gwisgo masgiau wyneb i ymweld â’r siopau hanfodol a dilyn mesurau hylendid llym.

"Bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn parhau i atgoffa pobl o'r cyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno drwy gyfryngau lleol, gwefannau a phorthiant cyfryngau cymdeithasol".

Am ragor o wybodaeth am coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru


Cyhoeddwyd ar: 23 Hydref 2020