Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn dathlu Wythnos Llyfrgelloedd 2022 gydag wythnos o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar ddysgu gydol oes, yn ystod Hydref 3-9.

Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddathliad blynyddol o lyfrgelloedd sy’n agos iawn at galon y genedl, ac eleni yn tynnu sylw at y cyfraniad pwysig mae llyfrgelloedd yn ei wneud wrth ysbrydoli dysgu i bawb ac wrth helpu unigolion i ddatgloi a chyrraedd eu potensial ym mhob cyfnod bywyd.

Trwy gydol yr wythnos bydd llyfrgelloedd yn annog pawb i gario mlaen i ddysgu trwy ystod o ddigwyddiadau i gysylltu gyda’r gymuned leol.

Bydd Llyfrgell Dinbych yn cynnal bore goffi Wcraneg Dydd Mawrth Hydref 4ydd 10.30-12.00 ac mae croeso i bobl ddod i ddysgu mwy am fywyd a diwylliant Wcrain.

Yn Llyfrgell y Rhyl bydd grŵp darllen Shelf Indulgence Reading Group yn cyfarfod Ddydd Iau Hydref 6ed 11.00-12.00 ar gyfer eu sesiwn misol, bydd y grŵp gweu a chrefft newydd Spinning Yarns yn cyfarfod am y tro cyntaf Ddydd Gwener Hydref 7fed 10.00-12.00, a bydd Paned a Sgwrs Cymraeg, cyfle i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd ddod at ei gilydd yn cychwyn cyfarfod yn fisol ar Ddydd Gwener am 1.30-2.30 o Hydref 7fed.

Bydd sesiynau Cymorth Digidol yn cynnig cymorth cyfeillgar i fynd ar-lein a lawrlwytho llwyth o stwff i’w fwynhau - Ddydd Mercher Hydref 5ed yn Llyfrgell Prestatyn 10.00-12.00 a Llyfrgell y Rhyl 2.00-4.00pm.

Bydd Llyfrgell Rhuthun yn cynnal agoriad arddangosfa o waith celf Uwch Rhuthun / Ruthin Tops gan G. Morton Roberts, ar Hydref 3ydd 1.00-2.00, a bydd grŵp Crefft a Chlonc yn cynnal eu cyfarfod misol ar Hydref 4ydd 10.00-12.00 - cyfle i ddatblygu sgiliau crefft newydd a chael sgwrs a phaned. Hefyd fe fydd Pwyntiau Siarad yn dychwelyd i Lyfrgell Rhuthun ar Hydref 7fed - gyfle i gael sgwrs i ddod o hyd i weithgareddau a chefnogaeth leol i gynnal llesiant a byw yn dda.

Yn Llyfrgell Llangollen bydd gweithdy sgwennu creadigol gyda Trish Maybury Ddydd Mercher Hydref 5ed 10.00-12.00 yn gyfle i ddysgu sut i sgwennu darnau rhyddiaith byr am brofiad bywyd neu hoff le.

Bydd grŵp crefft Llyfrgell Prestatyn yn cyfarfod Ddydd Iau Hydref 6ed 10.00-12.00 i rannu eu sgiliau creadigol.

Gwahoddir pobl hefyd i alw i mewn i’w llyfrgell leol unrhyw bryd i ddarganfod yr ystod enfawr o wasanaethau sydd ar gael gan gynnwys llyfrau, llyfrau llafar a jig-sos i’w benthyg a lawrlwytho am ddim, mynediad ar-lein ac argraffu a’r gwasanaeth argraffu cwmwl newydd, sesiynau cyngor a chymorth, gwybodaeth ymwelwyr a gweithgareddau i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol ar gyfer Diwylliant, Hamdden a’r Gymraeg, “Rwy’n rhyfeddu at yr holl wasanaethau sydd ar gael trwy ein llyfrgelloedd yma yn Sir Ddinbych. Rwy’n annog pawb i alw mewn i’ch llyfrgell leol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 2022 i ddarganfod mwy am yr holl ffyrdd mae llyfrgelloedd yn galluogi dysgu gydol oes. Mae croeso i bawb ac mae’n rhad am ddim i ymaelodi hefo’r llyfrgell.”

Ewch i dudalennau'r llyfrgelloedd i ddarganfod mwy am yr holl wasanaethau a gweithgareddau sydd gan Lyfrgelloedd Sir Ddinbych i’w cynnig trwy gydol y flwyddyn i ymgysylltu â’n cymuned amrywiol. Cadwch mewn cysylltiad trwy ddilyn @LlyfrgellDinb a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar Facebook ac Instagram.


Cyhoeddwyd ar: 26 Medi 2022