Cwrs Cadw Gwenyn Canolradd/Gwella

Lleoliad
Canolfan Cymunedol Pentredwr
Dyddiad(au)
10/02/2018 (09:15) - 03/03/2018 (16:30)
Disgrifiad

Nod y cwrs yw crynhoi ac adolygu’r deunydd a edrychwyd arno yn ystod y cwrs i ddechreuwyr, ac mae’n addas i bobl sydd wedi cadw gwenyn ers blwyddyn neu fwy. Mae hefyd yn addas i’r rheiny sydd wedi cwblhau’r cwrs i ddechreuwyr neu sy’n bwriadu ailddechrau cadw gwenyn ar ôl sawl blwyddyn o beidio.

Mae hwn yn gwrs tridiau sy’n cael ei gynnal ar dri dydd Sadwrn (10 a 24 Chwefror a 3 Mawrth 2018). Cost y cwrs yw £75.00, gyda diwrnod ymarferol ychwanegol am £10.00 i’r rheiny sy’n dymuno.

Os hoffech chi gofrestru’ch diddordeb yn y cwrs hwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch neges at education@scbeekeepers.co.uk neu ewch i www.scbeekeepers.co.uk.