Mae yna gyfrifiaduron gyda chyrchiad am ddim i’r rhyngrwyd a mynediad wifi am ddim ym mhob un o lyfrgelloedd Sir Ddinbych.
Pwy all ddefnyddio’r cyfrifiaduron?
Aelodau’r llyfrgell sy’n cael defnyddio’r cyfrifiaduron. Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, gallwch ymuno’n sydyn ac am ddim ar-lein. Byddwch angen rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN i arwyddo mewn i’r cyfrifiaduron
Os ydych chi dan 11 oed, bydd angen i chi fod ag oedolyn efo chi. Os ydych chi rhwng 11 a 14 bydd arnoch angen caniatâd gan riant neu ofalwr. Bydd y staff yn y llyfrgell yn gallu rhoi ffurflen i chi ar er mwyn i’ch rhiant neu eich gofalwr ei llofnodi.
Am ba hyd y gallaf i ddefnyddio’r cyfrifiaduron?
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron am awr ar y tro. Os bydd cyfrifiaduron ar gael, gellir ymestyn eich sesiwn. Ar adegau prysur, fel ar ôl ysgol, efallai y caiff sesiynau eu cyfyngu i 30 munud. Mae hyn i wneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle teg i ddefnyddio’r cyfrifiaduron. Bydd y cyfrifiaduron yn diffodd yn awtomatig 15 munud cyn bod y llyfrgell yn cau.
Gallwch archebu cyfrifiadur hyd at wythnos ymlaen llaw. Gallwch archebu am awr ar y tro. I archebu, ffoniwch eich llyfrgell leol. Fe ofynnir i chi am eich rhif aelodaeth, felly gofalwch fod eich cerdyn llyfrgell wrth law.
Allaf i brintio?
Gallwch brintio mewn lliw ac mewn du a gwyn, am dâl bychan.
Bydd staff yn y llyfrgell yn gallu dangos i chi sut i ddewis maint y papur, a pha un ai i brintio mewn lliw neu ddu a gwyn.